Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer plant blynyddoedd 10+. Cymraeg yw iaith y cwrs.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
17 Gorffennaf 2022
Pa mor hir mae'n para?
3 noson
Pris
£245 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Gwyliwch am flas o wersyll newydd sbon Glan-llyn Isa'!
Llety
Mae llety ar gyfer 40 person yng Nglan-llyn Isa', wedi eu rhannu i 10 ystafell wely, 4 llofft ar y llawr gwaelod a 6 llofft ar y llawr cyntaf.
Mae toiledau a chawodydd yn cael eu rhannu, ac wedi eu lleoli ar y ddau lawr. Mae’r gwlâu yn gyfuniad o wlâu sengl, gwlâu bync a 4 gwely dwbl, a’r ystafelloedd yn amrywio o ystafelloedd sengl i ystafelloedd 8 gwely.
Adnoddau
Lolfa a chegin
Mae cyfleusterau cegin yng Nglan-llyn Isa' sy’n addas ar gyfer gwasanaeth arlwyo neu drefniant hunan-arlwyo, ac mae Lolfa Prys yn ardal gymunedol â lle i 36 person i fwyta ac ymlacio. Mae teledu a llosgwr coed yn y lolfa, ac mae WIFi trwy’r ganolfan gyfan.
Gardd gymdeithasol
Mae gardd eang yng nghefn y tŷ sy’n cynnwys ardaloedd cysgodol i eistedd, ardal fwyta, cegin awyr agored sy'n cynnwys popty pizza, crochan, barbeciw, oergell a sinc, yn ogystal â golygfeydd bendigedig o’r ardal leol.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol.
Galeri




















