Gwyliau 3 diwrnod llawn gweithgareddau ar gyfer anturiaethwyr bach

Mae'r Gwersyll ger y lli yn enwog am gynnig profiadau bythgofiadwy i blant Cymru. Gyda'r Gwersyll Haf cyntaf un yng Ngwersyll Llangrannog yn 1932, mae Llangrannog wedi bod yn croesawi plant dros yr haf ers 90 o flynyddoedd.

Gyda dros 20 o weithgareddau ar gael, sy'n amrywio o sgïo i farchogaeth a dringo, cewch wyliau'n llawn o anturiaethau yma yng Ngwersyll Llangrannog. Porwch drwy'r holl weithgareddau sydd ar gael yma.

Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. Gellir trefnu cludiant am bris ychwanegol.

Mae'r cwrs hwn wedi ei deilwra ar gyfer dysgwyr Cymraeg ac yn cael ei redeg yn ddwyieithog.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 8-12, neu blynyddoedd ysgol 4-6.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

Dydd Mercher 31 Gorffennaf i 2 o Awst 2024

Pa mor hir mae'n para?

2 noson

Pris

£145 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Llety

Ystafelloedd en suite yn cysgu rhwng 4 i 6 o bobl.

Cyfleusterau

Gallwch ymlacio gyda diod poeth, cymdeithasu, neu wylio'r teledu yn un o’n naw lolfa. Mae cysylltiad wi-fi ar gael am ddim.

Bwyd

Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi gan gogyddion y gwersyll â'r pwyslais ar baratoi bwyd iachus. Defnyddir cynnyrch lleol a Chymreig  lle bynnag y bo hynny’n bosibl a defnyddir cyflenwyr dibynadwy sydd yn darparu cynnyrch o'r ansawdd uchaf.

 

Enghraifft o ddiwrnod

AmserlenGweithgaredd
Brecwast Brecwast i bawb - bacwn, ffa pob, tôst, jam a mwy - eich dewis chi
Bore Bore o hedfan i lawr y wifren zip a gwibio i fyny'r wal abseil a'r wal ddringo
Cinio Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn!
Prynhawn Prynhawn ar gefn y beiciau modur, trampolin, a'r ceffylau
Te Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta
Ar ôl te Ychydig o nofio
Swper Cinio rhost neu bolognese i'r anturiaethwyr llwglyd ar ôl diwrnod prysur
Ar ôl swper Cerdded i lawr i lan y môr Llangrannog am noson braf o hufen iâ a gemau ar y traeth

*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.