Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
15 Awst 2022
Pa mor hir mae'n para?
4 noson
Pris
£195 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Manylion y cwrs
Dyma gwrs newydd sbon i oedran cynradd. Cyfle i actio, canu, ac i fod yn greadigol. Cyfle i ddatblygu eich sgiliau newydd trwy cael hwyl yn y Gwersyll yn y bae! Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn rhai o atyniadau y Brifddinas.
Llety
Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!
Cyfleusterau
Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.
Bwyd
Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Galeri























Bydd Gwersyll Caerdydd yn darparu rhaglen o gyrsiau dyddiol amrywiol i bob oedran dros yr haf. Cadwch olwg ar wefan y Gwersyll am fwy o fanylion.