Dewch i ddianc i'r ddinas am wythnos!

Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.

Dros gyfnod o pump diwrnod byddwch yn mwynhau gweithgareddau fel tro ar gwch cyflym, sglefrio ia, ymweld a Stadiwm y Mileniwm, bowlio deg a noson yn y sinema. Dyma enghraifft o amserlen o un o gyrsiau preswyl Gwersyll Caerdydd i roi syniad i chi.

Deifiwch i fyd o brofiadau, anturiaethau gwallgof, ac atgofion bythgofiadwy. P'un a ydych chi'n hoffi gemau, gweithgareddau neu archwilio’r ddinas -pwrpas y cwrs hwn yw dianc i’r ddinas a chael hwyl. Felly, rhowch wybod i’ch carfan, ymunwch â ni ym Mae Caerdydd, a gadewch i ni wneud yr haf hwn yn chwedlonol!

Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. 

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 7-9 / plant 11- 14 oed.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

Dydd Llun 22 Gorffennaf nes Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024

Pa mor hir mae'n para?

5 diwrnod, 4 noson

Pris

£235 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Llety

Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!

Cyfleusterau

Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.

Bwyd

Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.