Cwrs unigryw yn y brifddinas i gerddorion ifanc

Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.

Mae ein Cwrs Creu yn gwrs unigryw sydd wedi'i deilwra'n arbennig i blant sy'n diddori mewn creu a chyfansoddi cerddoriaeth.

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai ar gyfansoddi a pherfformio, a cael cyfle i fynd ati i recordio. Mae’r gweithdai yn cael eu harwain gan Lewys Wym (Sywel Nyw ac ennillydd Albwm Cymraeg y flwyddyn 2022), Heledd Watkins (HMS Morris) a'r cerddor Osian Rhys. Bydd hefyd cyfle i fwynhau gweithgareddau yn y gwersyll a chael blas ar rhai o atyniadau'r Brifddinas.

Mae’r pris yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau, a tri pryd bwyd y dydd.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-9.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

Dydd Mawrth 20 Awst 2024

Pa mor hir mae'n para?

4 diwrnod, 3 noson

Pris

£210 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Llety

Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell.

Cyfleusterau

Byddwn yn defnyddio'r Neuadd i gynnal y rhan fwyaf o'r cwrs ond hefyd yn neud y mwyaf o'n hystafelloedd dosbarth a'r hwb wrth ymarfer ac ymlacio. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio a swper yn ei weini'n ddyddiol.