Gwyliau i anturiaethwyr ifanc yn un o leoliadau gwefreiddiol gogledd Cymru

Wedi ei lleoli ar lannau Llyn Tegid, mae gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel.

Mae dod ar Wersyll Haf yng Nglan-llyn yn gyfle i brofi gweithgareddau a gwneud ffrindiau newydd gyda phlant o bob cwr o Gymru. Mae'r gweithgareddau yn amrywio o ganŵio, dringo, taith gerdded, saethyddiaeth, cwrs rhaffau, a nofio.

Fin nos fydd  na ddim stop  ar yr hwyl gan y byddwch yn dawnsio mewn disgo, gwylio ffilm, canu o amgylch y tân wrth rostio malows melys, chwarae gemau cae, cael barbeciw, a bingo. Mae digonedd o hwyl o fore gwyn tan nos a hyn i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. Gellir trefnu cludiant am bris ychwanegol.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer plant blynyddoedd 4-6. Cymraeg yw iaith y cwrs.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau a phris?

Gorffennaf 31 - 2 Awst - £165 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

NEU

20 - 23 Awst 2024 - £195 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Pa mor hir mae'n para?

3 diwrnod, 2 noson

NEU 

4 Diwrnod, 3 noson

Bws

Gellir darparu bws am gost ychwanegol

Llety

Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech neu wyth.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.