Beth am gwrs antur ddwyieithog anhygoel sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer plant oed cynradd? Taith llawn hwyl, cyfle i greu ffrindiau newydd ac amser i grwydro Gwersyll Glan-llyn wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous. Dechreuwch eich antur gyda cyfeiriannu, gan chwilio am gliwiau sydd wedi'u cuddio yng nghanol Glan-llyn. Dychmygwch goncro cwrs rhaffau uchel, siglo o goeden i goeden a phrofi eich dewrder ar y  sleid fertigol.

Drwy gydol y cwrs, cewch gyfle i ymarfer a ddysgu Cymraeg sylfaenol, ymgolli yn y gweithgareddau a gwneud ffrindiau newydd. Felly paratowch ar gyfer antur fythgofiadwy lle mae dysgu a hwyl yn mynd law yn llaw!

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer plant blynyddoedd 4-6. Mi fydd y cwrs yn addas i ddysgwyr.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

29 - 31 Gorffennaf 2024

Pa mor hir mae'n para?

3 diwrnod, 2 noson

Pris

£165 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Bws

Gellir darparu bws am gost ychwanegol

Llety

Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech neu wyth.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.