Cyrsiau 6ed Dosbarth a Cholegau

Yn flynyddol rydym yn cynnal cwrs adolygu Lefel A Cymraeg (iaith gyntaf ac ail iaith) mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor, sydd yn cynnwys darlithoedd, ymweliadau a gweithdai gan gyfranwyr mwyaf blaenllaw'r iaith Gymraeg. Mae’r Gwasanaeth Awyr Agored wedi datblygu nifer o unedau sy’n rhan o gynllun Chwaraeon, Sgiliau Gwaith a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC. Mae nifer o’r unedau ynghlwm a’r achrediadau BTEC yn cynnwys elfen sydd yn gysylltiedig â’r awyr agored. Mae modd i unigolion gyflawni elfennau ymarferol a/neu ddamcaniaethol yr unedau o dan arweiniad a gofal swyddogion y Gwasanaeth Awyr Agored. Rhestr modiwlau ar gael ar dudalen Gwasanaeth Awyr Agored

Cwrs Gwaith  Maes Daearyddiaeth Safon UG - Trefnir y cwrs ar y cyd â Adran Dearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

Cwrs Cyfrwng Cymraeg Hydref 11-14 2026

Cwrs Dwyieithog Hydref 19-21 2026

Cwrs Cymraeg a Cymraeg Ail-iaith  Safon U/UG - Trefnir ar y cyd a Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor 

Cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf: Tachwedd 9-11 2026

Cwrs Cymraeg Ail-Iaith: I'W GADARNHAU

Pris i gynnwys llety / bwyd / gweithgareddau

Amserlen

Trefnir amserlen yn cyd -fynd a maes llafur y pynciau ond rhoddir cyfle i’r myfyrwyr fynychu ambell i weithgaredd awyr agored a chymdeithasol yn ystod y tridiau.

Dyddiad cau

I'W GADARNHAU

Lefel A Daearyddiaeth a Chymraeg

Nol