TGAU & Lefel A

Gall Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ddarparu nifer o gyrsiau TGAU a Lefel A, sydd wedi ei deilwra’n arbennig i ateb gofynion ysgol/coleg unigol. Gallwn hefyd addasu cwrs ar gyfer cwricwlwm unrhyw fwrdd arholi. Gwaith maes Daearyddiaeth, ail iaith a iaith gyntaf Cymraeg a chwaraeon ac awyr agored yw ychydig o esiampl o’r ddarpariaeth y gallwn gynnig. Yn flynyddol rydym yn cynnal cwrs adolygu Lefel A Cymraeg (iaith gyntaf ac ail iaith) mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor, sydd yn cynnwys darlithoedd, ymweliadau a gweithdai gan gyfranwyr mwyaf blaenllaw'r iaith Gymraeg.

Dyddiad cyrsiau Safon U/ UG Cymraeg a Daearyddiaeth

Safon UG Gwaith Maes Daearyddiaeth  (ar y cyd ag Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth)

Cwrs Cyfrwng  Cymraeg - Hydref 13-15 / cwrs Dwyieithog Hydref 20-22

Safon U / UG Cymraeg Iaith ( ar y cyd ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor)

Cwrs Mamiaith Tachwedd 3-5ed / Cwrs Ail-Iaith Rhagfyr 3-5ed

Cost Cyrsiau Safon U/UG £163 i gynnwys darlithoedd, gweithdai, bwyd, llety, gweithgareddau anturus a chymdeithasol

Trefnir bws o wahanol ardaloedd yng Nghymru am £25 - £35 ychwanegol

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a llinosjw@urdd.org

Nol