Chwilio am lety hunanarlwyo yng Ngogledd Cymru? Yng Nglan-llyn, rydym yn cynnig llety eang a chyfforddus sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd, grwpiau mawr neu gweithgareddau corfforaethol. Wedi’i leoli ar lannau Llyn Tegid, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, mae ein llety yn cyfuno hyblygrwydd gyda golygfeydd syfrdanol.
Tŷ Eirys & Cwt Ifan
Mae’r ddau adeilad hyn yn dod fel un pecyn, gan eu gwneud yn berffaith ar gyfer arosiadau grŵp mawr. Mae Tŷ Eirys yn cysgu hyd at 19 (os defnyddir gwlâu dwbl), ac mae Cwt Ifan yn adeilad ar wahân drws nesaf, gan gynnig cegin a leoliad i ymlacio.
Glan-llyn Isa
Dewis arall gwych ar gyfer grwpiau mawr, gyda lle i hyd at 40 (os defnyddir gwlâu dwbwl) a chyfleusterau modern ar gyfer arhosiad cyfforddus, gan gynnwys Cegin a lolfa mawr. Mae Glan-llyn Isa' 300m i ffwrdd o'r brif safle gyda llwybr yn mynd or brif safle.
Ychwanegwch antur i’ch arhosiad gyda gweithgareddau awyr agored fel canŵio, dringo, cwrs rhaffau a saethyddiaeth – yn berffaith ar gyfer adeiladu tîm neu hwyl i’r teulu cyfan!
Mae prisiau yn amrywio ac yn dibynnu ar y llety, maint y grŵp a’r pecyn.
Cysylltwch â ni heddiw am ddyfynbris wedi’i deilwra i’ch gofynion.