Cyfleusterau

Mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd wedi ei leoli yng nghanol bwrlwm Bae Caerdydd, gyferbyn a’r Senedd, ac yn lleoliad delfrydol i ymweld â rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Caerdydd.

Taith rhithiol o wersyll Caerdydd - CLICIWCH YMA

 

Llety

Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym dair ystafell sy’n cysgu dau, un yn cysgu tri, tair ystafell i grwpiau o bedwar a dwy ar hugain ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!

Yn achlysurol, gall unigolion a theuluoedd aros yn y Gwersyll ar delerau Gwely a Brecwast.

 

Ardaloedd Cyhoeddus

Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.

 

Bwyd

Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gall y Gwersyll ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

 

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd wedi ei leoli yn un o'r adeiladau celfyddydol mwyaf eiconig yn Ewrop, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd. Yn ogystal â darparu llety ar gyfer 153 mae gennym gyfleusterau cynadledda a chyfarfod ar gael i'w llogi.

Beth all Gwersyll Caerdydd ei gynnig i'ch busnes chi?