Cwrs unigryw yn y brifddinas i gerddorion ifanc

Mae ein Cwrs Creu Cerddoriaeth yn gwrs unigryw sydd wedi'i deilwra'n arbennig i blant sy'n diddori mewn creu a chyfansoddi cerddoriaeth.

Yn cael ei arwain gan Marged Gwenllian (Y Cledrau a Ciwb), Lewys Wyn (Sywel Nyw) a’r Cerddor Osian Rhys.

Mae’r pris yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau, a tri pryd bwyd y dydd.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-9.

Dyddiad

18 - 21 Awst 2026

Pa mor hir mae'n para?

4 diwrnod, 3 noson

Pris

£225 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

£50 o flaendal - Cynllun talu rhandaliadau ar gael.

Gellir trefnu cludiant trên am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.

Llety

Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell.

Cyfleusterau

Byddwn yn defnyddio'r Neuadd i gynnal y rhan fwyaf o'r cwrs ond hefyd yn neud y mwyaf o'n hystafelloedd dosbarth a'r hwb wrth ymarfer ac ymlacio. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio a swper yn ei weini'n ddyddiol.