Barod i ateb galwad y gwyllt?
Ymunwch â ni am antur fythgofiadwy yng Ngorllewin Cymru ar ein Gwersyll Gwyllt sydd wedi'i gynllunio i'ch ailgysylltu â natur a'ch grymuso i ffynnu yn yr awyr agored.
Atebwch alwad y gwyllt a dysgwch sut i amddiffyn ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Datblygwch sgiliau newydd a gweithiwch gyda’ch gilydd i oroesi sialensiau gwyllt y gwersyll.
Beth i ddisgwyl
- Ewch amdani yn yr awyr agored: Teithiau cerdded dan arweiniad trwy goetiroedd hynafol ac ar hyd bryniau mawreddog y Preselau, sesiwn SUP ar Lyn Llysyfran ,a sêrydda o dan flanced o sêr gyda’r nos.
- Goroeswch y gwyllt!: Dysgwch sgiliau gwylltgrefft megis dechrau tân, creu lloches a fforio am bwyd a gwynebu sialensau llwythol.
- Datblygwch sgiliau hunangynhaliol: Gweithdai tyfu bwyd a choginio a chrefftau gwledig.
Wedi gadael mi fydd gennych...
- Mwy o hunanddibyniaeth a hyder: Meistrolwch sgiliau newydd a darganfod eich dyfeisgarwch mewnol.
- Cysylltiad dyfnach â natur: Datblygu gwerthfawrogiad dwfn o harddwch a grym yr anialwch.
- Atgofion bythgofiadwy: Rhannu straeon, chwerthin, heriau a thân gwersyll o dan awyr helaeth Cymru.
Ar gyfer pwy?
Addas ar gyfer oedrannau 8-12, neu blynyddoedd ysgol 4-6.
Dyddiad
20 - 22 Gorffennaf 2026
Pa mor hir mae'n para?
3 diwrnod, 2 noson
Pris
£179 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Cynllun talu rhandaliadau ar gael.
Gellir trefnu cludiant bws am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.
Llety
Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at chwech neu wyth.
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Amserlen Galwad y Gwyllt
Dydd 1
12:30 Cyrraedd, Croeso a Chinio
13:30 Sesiwn Goroesi'r Gwyllt Cynefin Coedwig
15:00 Sesiwn Gwylltgrefft
16:00 Egwyl a The
17:00 Sesiwn Pridd i'r Plât- gwneud pitsa eich hun!
18:00 Swper
19:00 Gemau Traeth gyda Malws melys o amgylch y tân
21:00 Gwely
22:30 Sesiwn Serydda i rai sydd eisiau aros i fyny
Dydd 2
8:00- Brecwast
9:30- Sesiwn Padlfyrddio ar Lyn Llys-y-frân
12:00 Cinio Pecyn
13:00 Taith Gerdded ar Fryniau’r Preseli- Goroesi’r Ucheldiroedd
15:00 Dychwelyd i'r Gwersyll, cawodydd ac egwyl
16:00 Crefft Gwledig
17:00 Cymorth Cyntaf Awyr Agored
18:00 Swper
19:00- Heriau Llwythol
21:00- Gwely
22.00- Taith Creaduriaid y Nos i rai sydd eisiau aros i fyny
Dydd 3
8:00 Brecwast/ Pacio
9:30 Her Galwad y Gwyllt
11:00 Ffarwelio ac ymadael