Wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd, mae Canolfan yr Urdd yn cynnig man unigryw i wneud ffrindiau newydd ac i ddod i adnabod y ddinas.

Mae’r cwrs creu ffilmiau cyffrous ac unigryw hwn wedi’i deilwra a’i anelu at bobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu am greu ffilmiau neu ddatblygu eu sgiliau creu ffilmiau ymhellach.

Byddwch yn gweithio gyda 15 o bobl ifanc eraill a gwneuthurwr ffilmiau proffesiynol i ddatblygu eich sgiliau adrodd stori a sgrin; o sgriptio a chreu bwrdd stori, i ddefnyddio camera, recordio sain a golygu.

Mae creu ffilmiau yn ffurf gelfyddydol hygyrch – mae yna rôl i bob person ifanc sydd eisiau cymryd rhan, beth bynnag yw eu profiad neu’u sgiliau blaenorol.

Caiff y prosiect hwn ei gynnal trwy raglen Pob Plentyn yn Creu Ffilm, Into Film; menter gyffrous sy'n helpu grwpiau o bobl ifanc o bob rhan o'r Deyrnas Unedig i greu eu ffilm fer eu hunain a dysgu pob elfen o'r broses o greu ffilm ar hyd y ffordd. Rydyn ni’n paru’r grwpiau gyda gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol a gyda’i gilydd maen nhw’n datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i adrodd eu stori, gan ddod â lleisiau newydd a heb eu clywed i’r sgrin, yn ogystal â meithrin eu hyder a’u sgiliau gweithio mewn tîm, a hybu eu dyheadau gyrfa yn y diwydiannau sgrin.

Ynglŷn â Phob Plentyn yn Creu Ffilm

Caiff prosiect penodol Pob Plentyn yn Creu Ffilm ei gynnal trwy bartneriaeth rhwng Into Film (www.intofilm.org) ac Urdd Gobaith Cymru a chaiff ei ariannu gan BBFC.

Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) yw’r rheoleiddiwr ffilmiau a fideos annibynnol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae’r sefydliad yn bodoli i helpu pawb i ddewis ffilmiau, fideos a gwefannau sy'n briodol o ran oedran, ble bynnag a sut bynnag y maen nhw’n eu gwylio neu'n eu defnyddio, yn bennaf trwy gyfraddau oedran a chyngor ar gynnwys sy’n cael eu cydnabod yn eang ac y mae modd ymddiried ynddyn nhw.  

Diolch i’n cyllidwyr hael, gan gynnwys y prif bartneriaid Amazon MGM Studios, EON Productions a Swatch, yn ein blwyddyn gyntaf byddwn yn gallu cefnogi a galluogi 250 o bobl ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Ucheldiroedd yr Alban, Belfast, Caerdydd a Llundain, i brofi grym trawsnewidiol creu ffilmiau.

Mae’r Gwersyll Haf hwn yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r pris yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau, tri phryd y dydd ac ystafelloedd en-suite.

I bwy mae’r gwersyll?

Mae’r gwersyll haf hwn yn addas i flynyddoedd ysgol 7-9 / arddegau 11-15 oed. 

Pryd mae'n dechrau?

Dydd Mawrth 19 Awst tan ddydd Gwener 22 Awst 2025.

Pa mor hir yw'r gwersyll?

4 diwrnod, 3 noson

Faint fydd yn ei gostio? 

£220 i aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymuno ar-lein fan yma.

Mae cynllun ar gael i dalu mewn rhandaliadau.

Gellir trefnu cludiant ar fws am gost ychwanegol - bydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.

Am y ffioedd

Into Film a’r BBFC (a phartneiriaid Pob Plentyn yn Creu Ffilm) a fydd yn ariannu’r gweithgareddau ffilm fel rhan o’r cwrs preswyl. Mae pris yr Urdd yn cael ei dalu i’r Urdd ac yn cynnwys, gweithgareddau ychwanegol, tri phryd y dydd ac ystafelloedd en-suite.

Cronfa i Cyfle  Bawb

Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd  - gan gynnwys y cwrs arbennig hwn, i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel.

Gellir gwneud y broses yma trwy ysgol eich plentyn neu yn uniongyrchol drwy’r rhieni / gwarcheidwaid. 

Bydd y ceisiadau yn agor ar 28 Erbill 2025 ac yn cau 31 o Fai 2025.

Gellir gwneud cais yma.

Llety

Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 ystafell sy’n cysgu tri, 3 ystafell ar gyfer grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae pob ystafell yn cynnwys cyfleusterau en-suite.

Cyfleusterau

Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sy’n cynnwys bwrdd pŵl a pheiriannau gwerthu bwyd a diod.

Bwyd

Gall y neuadd fwyta weini brecwast, cinio, te a swper. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.