DIWRNODAU HWYL I BLANT!
Mae ein Diwrnodau Hwyl yn llawn hwyl ac antur, gyda gweithgareddau yn addas i blant 8-12 oed.
Yn ystod y dydd bydd amrywiaeth o weithgareddau, er engraifft: Ceirt Modur, Sgïo, Gwibgartio, Tŵr, Cwods, neu weithgareddau eraill (mae rhai gweithgareddau yn ddibynnol ar y tywydd!) felly digon o ddewis o weithgareddau anturus, gyda chinio twym.
Gall eich plentyn mynychu fel unigolyn neu gyda grŵp o ffrindiau – bydd yna groeso cynnes i bawb.
Pryd?
Hanner Tymor Chwefror...
Dydd Iau, 19 Chwefror
£40 y pen
Hanner Tymor Pasg...
Dydd Mawrth, 31 Mawrth
Dydd Iau, 2 Ebrill
£45 y pen
Manylion:
6 gweithgaredd a chinio twym
9.30-16:00
Addas i blant oedran 8-12 oed
Mae'n hanfodol eich bod yn cofrestru eich plentyn ymlaen llaw, i sicrhau argaeledd.
Peidiwch â cholli allan, e-bostiwch llangrannog@urdd.org
