Gwersyll Rygbi y Gweilch - Hydref 2025

Mercher 29/10/25 - Gwener 31/10/25

Ymunwch â ni am brofiad rygbi bythgofiadwy yng Ngwersyll Llangrannog, mewn partneriaeth falch â’r Gweilch! Mae’r Gwersyll unigryw hwn yn cyfuno hyfforddiant rygbi o’r radd flaenaf gan hyfforddwyr proffesiynol y Gweilch gyda’r hwyl, egni a diwylliant Cymreig unigryw sydd i’w gael yng Ngwersyll Llangrannog.

P’un a ydych am wella eich sgiliau, magu hyder ar y cae, neu fwynhau tridiau llawn hwyl gyda ffrindiau newydd – dyma’r cyfle perffaith. 

Yn ystod gweddill yr amser bydd cyfle i chi fwynhau gweithgareddau’r Gwersyll gan gynnwys ein gwifren wib, y ganolfan ddringo, sgïo, beiciau modur a mwy!

Darperir llety o safon uchel a hyd at bedwar pryd o fwyd y dydd, gellir darparu bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.

Bydd y cwrs yn rhedeg o 11.30yb ar Ddydd Mercher i 1.30yp ar Ddydd Gwener.

  • Addas i 8-12 oed / Blynyddoedd 4-7 
  • Ar agor i bob gallu.
  • Trafnidiaeth ar gael.