Gwyliau Teulu Eisteddfod y Garreg Las!
Gyda yr Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 o fewn hanner awr i'r Gwersyll, mae Lllangrannog yn cynnig llety arbennig i deuluoedd sydd am fwynhau popeth sydd gan y maes, yr ardal leol a gweithgareddau'r Gwersyll i'w gynnig.
Mi fydd gwely (ystafelloedd en-suite) a brecwast yn gynwysiedig yn y prisiau isod, ynghyd a defnydd o'r Canolfan Hammden, Pwll Nofio a Chyfleusterau Chwarae.
Yn ogystal bydd trafnidiaeth i'r Maes yn Llantwd a nol yn rhan o'r pris - felly cyfle perffaith i'r oedolion ymlacio.
Bydd modd trefnu ac archebu y canlynol yn ychwanegol. Bydd hyn yn rhoi digon o hyblygrwydd i chi aros yn y Gwersyll am y dydd neu gwario fwy o amser ar y maes neu ar draeth Llangrannog.
- Cinio Pacio
- Swper poeth
- Diwrnod o weithgareddau i'r teulu cyfan NEU
- Diwrnod o weithgareddau i'r plant yn unig
Mae cyfnodau o 2 noson i 7 noson ar gael i archebu ar y linc isod.
Llety a Bwyd
Ystafelloedd ensuite gyda gwelyau bync, cyfleusterau gwneud coffi gerllaw yn y lolfeydd, brecwast twym bob dydd wedi eu cognio ar eich cyfer, a dim golchi llestri! Darparir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.
Bydd cinio pacio ar gael i archebu hefyd ar gyfer diwrnod ar y maes neu diwrnod ar y traeth!
Byddwch gallu archebu swper ar y safle ar yr un diwrnod - digon o hyblygrwydd i gynllunio eich ymweliad i'r maes yn ol y tywydd neu raglen yr wythnos.
Yr Ardal
Traethau baneri glas, llwybr arfordirol bendigedig, bywyd gwyllt, tafarndai, bwytai cyfagos, teithiau cychod Cei Newydd, dolffiniaid a llawer llawer mwy!
Pris - Gwely a Brecwast yn unig
Gwely a Brecwast | Manylion | 2 noson | 3 noson | 4 noson | 5 noson | 6 noson | 7 noson |
Oedolion/ Adults | £104.50 | £129.50 | £154.50 | £174.50 | £189.50 | £204.50 | |
Plant/ Children 8+ | £80.50 | £100.50 | £115.50 | £130.50 | £145.50 | £160.50 | |
Plant/ Children 3-7 | £60.00 | £74.00 | £86.00 | £101.00 | £116.00 | £131.00 | |
Plant o dan 0-2 oed | Am ddim |
Am fwy o wybodaeth am gyrsiau teulu Gwersyll Llangrannog ffoniwch 01239 652 140 neu llangrannog@urdd.org
Dyddiadau ddim yn addas?
Os nad ydi’r dyddiadau hyn yn gyfleus, gallwn deilwra gwyliau i griw o deuluoedd, unrhyw dro yn ystod gwyliau’r ysgol – cysylltwch â ni!