Rhwng môr a mynydd yng Ngogledd Sir Benfro mae Gwersyll Pentre Ifan yn y lleoliad hudolus delfrydol ar gyfer eich digwyddiad chi. Gall ein tîm profiadol o staff ddarparu’r diwrnod perffaith ar eich cyfer, wedi’i deilwra i’ch anghenion chi.


O weithgareddau sy’n blaenoriaethu lles i ddysgu sut i ofalu am ein hamgylchedd, ioga i serydda. Rydym yn cynnig ymweliadau dydd yn ogystal â phrofiadau preswyl arbennig i grwpiau mwy.

Gweithgareddau ar y safle

  • Gwyllt-grefft
  • Crefftau gwledig
  • Sesiwn tyfu bwyd
  • Ffasiwn gynaliadwy
  • Sesiynau natur
  • Adeiladu tîm
  • Serydda
  • Meddwlgarwch
  • Ioga
  • Chwedlau o gwmpas y tân
  • Cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Cyrsiau Cymorth Cyntaf Awyr agored

I ffwrdd o’r safle

  • Taith gerdded (coedwig, mynyddoedd, arfordir)
  • Padlfyrddio
  • Syrffio

Cyfleusterau

  • Neuadd amlbwrpas sydd gallu eistedd hyd at 40, gyda defnydd o sgrin, taflunydd a fideo cynadledda
  • Ardal goginio awyr agored sy’n cynnwys popty pitsa, barbeciw a chrochan dân
  • Cegin a lolfa gymunedol sy’n gallu eistedd hyd at 20
  • Llwybrau cerdded i goedwigoedd Pentre Ifan a Thŷ Canol, i gromlech Pentre Ifan ac i fynyddoedd y Preseli.

Llety


Llety modern, cyfforddus a chartrefol. 5 ystafell en-suite sy’n cysgu hyd at 35 person. Yn yr haf, mae opsiwn i aros yn yr awyr agored drwy glampio mewn pabell saffari (3 pabell yn cysgu hyd at 26).

Arlwyo


Brecwast, cinio, swper, te a coffi. Gellir darparu ar gyfer pob math o anghenion dietegol.
Gallwch hefyd fanteisio ar nifer o fwytai blasus yr ardal.