Penwythnosau Thema'r Bradwyr

Hyd at 25 o chwaraewyr (lleiafswm o 12 person)

Ymunwch â ni am benwythnos o gynllwyn, twyll, heriau ac wrth gwrs… llofruddiaeth.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys eich llety, bwyd, cyflwynydd gêm a'ch heriau! Bydd eich heriau yn cael eu rhedeg gan Adventure Beyond, sydd wedi datblygu rhai o'r sialensiau a welir ar deledu!

Wrth gyrraedd nos Wener bydd gennych gyfle byr i ddadbacio cyn cwrdd â'ch cyflwynydd wrth y bwrdd cylch cyntaf yn ein neuadd Duduraidd 600 oed. Yma, fe gewch wybod a fyddwch yn chwarae fel un ffyddlon neu fel bradwr. Yna, bydd y gêm yn dechrau...

Cost- £270 y person am lety, bwyd, cyflwynydd a 2x heriau (1 her ddŵr a 1 her tir)

Cost- £320 y person am lety, bwyd, cyflwynydd a 3x heriau (1 her ddŵr a 2 her tir)

Ebostiwch pentreifan@urdd.org neu ffoniwch 01239 820 317