Dod â Daearyddiaeth yn fyw!
Ydych chi’n chwilio am brofiad gwaith maes ysbrydoledig ar gyfer eich disgyblion TGAU neu Lefel A?
Dewch i ymweld! Cysylltwch â ni heddiw! Dewch i archwilio tirweddau dramatig Gogledd Sir Benfro gyda’n tîm arbenigol yng Ngwersyll yr Urdd Pentre Ifan! Pecynnau 24 i 48 awr ar gael o £85 i £145 y person.
Enghreifftiau o Gwaith Maes Addas i’r Cwricwlwm
Dull Methodolegol - Newid Dros Amser a Thrawsluniau
- Archwilio twyni tywod Trefdraeth: llystyfiant, graddiant, pH pridd, a phwysau dynol.
- Ymweld â thraethau poblogaidd i asesu erydiad arfordirol – a’r prosesau daearyddol dan sylw.
- Dadansoddi archif ‘Arfordir Newidiol’ Parc Cenedlaethol Sir Benfro.
Arolygon Ansoddol
- Effaith safleoedd pot mêl ar gymunedau lleol.
- Taith gerdded trwy goedwig hynafol Tŷ Canol: bioamrywiaeth, ecosystemau a’r gylchred carbon.
Fframwaith Cysyniadol - Lle
- Cymharu ecosystemau: coedwig Tŷ Canol vs. Mynyddoedd y Preseli.
- Braslunio, defnyddio mapiau OS, cyfuchliniau a symbolau daearyddol.
Profiadau Antur gyda Ffocws Daearyddol
- Arfordiro (coasteering) neu padlfyrddio (SUP) gyda ffocws ar brosesau arfordirol a daeareg.
- Gweithgareddau ymarferol: gwylltgrefft, cerdded natur, garddio, coginio a mwy!
Llety a Chyfleusterau o Safon
- Llety i hyd at 40 (neu 55 gyda phebyll saffari).
- Dewis o hunanarlwyo neu fwyd wedi’i ddarparu.
Ymdrochi yn yr Iaith Gymraeg
- Gweithgareddau drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog.
- Cyfle i ddysgwyr ddatblygu hyder a mwynhau diwylliant Cymru: twmpathau, cerddoriaeth Gymraeg, chwedlau o amgylch y tân
Pam dewis Pentre Ifan?
- Tîm angerddol a phrofiadol.
- Cefndir naturiol syfrdanol ym Mryniau’r Preseli.
- Profiad diogel, pleserus ac addysgol wedi’i deilwra i’ch anghenion.