Cyrsiau Preswyl 2 dydd, 1 noson

Galwad y Gwyllt (Trwy’r flwyddyn) - £82

Atebwch alwad y gwyllt a dysgwch sut i amddiffyn ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Datblygwch sgiliau newydd a gweithiwch gyda’ch gilydd i oroesi sialensiau gwyllt y gwersyll.

Cwrs Lles a Natur (Trwy’r flwyddyn)- £82

Dyma gyfle i ymlacioa meithrin eich meddwl a'ch corff gyda sesiynau ioga ysgafn, meddylgarwch, myfyrdod mewn natur a gweithdai celf naturiol. Cewch rannu profiadau a mewnwelediadau mewn trafodaethau grŵp cefnogol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog i adeiladu tîm

Dihangfa Adolygu (Trwy’r Flwyddyn)- £79

Ymunwch â ni i roi lle ac amser i'ch myfyrwyr adolygu mewn lleoliad tawel yn rhydd o wrthdyniadau. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gweithgareddau lleihau straen fel myfyrdod, teithiau cerdded lles ac ioga. Fydd gennych ddefnydd llawn o’n neuadd hardd, ysbrydoledig a chartrefol yn y Porthdy ar gyfer eich sesiynau adolygu.

Dihangfa Greadigol (Trwy’r Flwyddyn)- £85

Cyfle i roi lle, ysbrydoliaeth ac amser i'ch myfyrwyr cyfansoddi a chreu heb wrthdyniadau. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gweithdy gydag arbenigwr yn eich pwnc a gweithgareddau a fydd yn helpu sbarduno syniadau mewn lleoliadau naturiol ysbrydoledig.

  • Gwaith Maes Daearyddiaeth 
  • Cwrs Hanes ac Archaeoleg
  • Cwrs Amaeth: Ymweliadau Fferm
  • Cwrs Busnes a’r Amgylchedd 

Pris yw pris y pen ac yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau. Mae’r uchod ar gael fel cwrs 3 diwrnod, 2 noson hefyd am gost ychwanegol.

Cwrs Preswyl 3 dydd, 2 noson

Dihangfa Lles a Natur- £137 y pen

Galwad y Gwyllt- £137 y pen

Antur Natur- £137 y pen

Pris yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau’r gwersyll. Fedrwn hefyd helpu chi drefnu gweithgareddau ychwanegol megis arfordiro, padlfyrddio a tripiau cwch yn yr ardal.

Adeiladwch Gwrs Preswyl eich Hun

Llety yn Unig £20 y gwely'r noson

Llety a bwyd £45 y gwely'r noson

(Pris yn seiliedig ar leiafswm o 15 person)

Cysylltwch â ni am restr o brisiau atyniadau a phrofiadau lleol.