Cwmni Theatr yr Urdd yn cyflwyno Calon; sioe gerdd newydd sbon yn llawn caneuon eiconig Caryl Parry Jones
Yng Nghaerdydd fis Awst 2026, mi fydd Cwmni Theatr yr Urdd yn llwyfannu Calon; sioe gerdd newydd sbon yn llawn o ganeuon eiconig a ysgrifennwyd gan Caryl Parry Jones dros y degawdau.
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru, yr ail lwyfan fwyaf yn Ewrop, ar 27, 28 a 29 Awst 2026. Mae tocynnau i’r perfformiadau ar werth nawr, ar wefan y Ganolfan: www.wmc.org.uk/calon
Hon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022 diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mi fydd cast o dros 100 o bobl ifanc, rhwng 15 a 25 mlwydd oed ac o bob cwr o Gymru, yn perfformio’n y sioe gyda band byw. Bydd cyfleoedd hefyd i bobl ifanc weithio ar bob elfen o’r gwaith llwyfan, yn cynnwys gwaith technegol, cynhyrchu a gwisgoedd. Caiff y bobl ifanc eu mentora trwy’r broses o greu’r sioe gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol yn y maes.
Mi fydd Calon yn llawn dop o’r caneuon cyfarwydd a hynod boblogaidd ysgrifennwyd gan Caryl dros 40 mlynedd, yn cynnwys yr anthem eiconig, Calon a rhai o ganeuon Eden. Yn cydweithio â Caryl ar y sioe fydd ei chefneither a’r gantores Non Parry; y Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd Elan Isaac a’r actores, cantores a chyflwynwraig Miriam Isaac; sef dwy o ferched Caryl.
Mi fydd y Cwmni yn teithio i ysgolion dros Gymru o fis Medi 2025 i hyrwyddo’r cyfle i gymryd rhan, a bydd clyweliadau yn cael eu cynnal yn y flwyddyn newydd!
Mae tocynnau yn £25, a bydd dehongliad BSL a sain ddisgrifiad. Yn addas ar gyfer unrhyw un 11+.
