Mae Ap Eisteddfod yr Urdd yn ôl yn fuan eleni!
Am y tro cyntaf erioed, bydd modd defnyddio’r Ap yn ystod Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth, yn ogystal â’r Genedlaethol.
Gwna’n siŵr dy fod yn lawrlwytho neu’n diweddaru’r Ap ar dy ffôn symudol er mwyn cael mynediad hawdd at wybodaeth bwysig drwy gydol yr Eisteddfod!
Ar yr ap diweddaraf, mae modd i ti...
- wirio dyddiad, amser a lleoliad yr holl Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth
- weld rhestr o'r cystadlaethau fydd yn ymddangos ym mhob Eisteddfod
- archebu tocynnau ar gyfer Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth
- derbyn diweddariadau am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn 2026