Mae rhanbarth Gwent yn gyffrous iawn i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2027 i Dy Tredegar, Casnewydd. Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd. Mae rhanbarth Gwent yn cynnwys Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy, a bydd y 5 ardal yn cydweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, Gwent 2027 yn llwyddiant.
Daw plant, pobl ifanc, ysgolion a theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yn dros 400 o gystadlaethau a gynhelir yn yr ŵyl 7 diwrnod. Caiff plant lleol hefyd y cyfle i fod yn rhan o’r sioeau, prosiectau a digwyddiadau fydd yn arwain at yr Ŵyl. Yn ogystal â’r cystadlu brwd, bydd arddangosfeydd a gweithgareddau cyffrous yn y GwyddonLe a’r babell Gelf a Chrefft, a llwyfannau berfformio gyda dawnswyr, bandiau byw a grwpiau yn diddanu trwy’r dydd, bob dydd.
Dyma dudalen i chi ddod o hyd i bob math o wybodaeth ynglyn ag Eisteddfod yr Urdd 2027.
Cyfrannu at Eisteddfod yr Urdd 2027 Dilynwch Facebook Eisteddfod y Pwyllgor Gwaith!