Tocynnau Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, 2026

Sut ydw i’n archebu tocyn i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026?

Gallwch archebu eich tocynnau yma.

Pa fath o docyn fyddai'n defnyddio i gael mynediad i Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026?

Eleni, bydd Eisteddfod yr Urdd yn defnyddio e-docynnau drwy gydol yr Ŵyl gan ofyn i ymwelwyr ddangos eu tocynnau ar ffon neu dabled yn y Ganolfan Groeso i gael mynediad. Bydd cod QR unigryw ar bob e-docyn a bydd staff yn sganio tocynnau ymwelwyr yn y fynedfa. Dim ond un waith bydd modd cael mynediad ar bob tocyn.

Oes rhaid archebu tocyn ar wahân ar gyfer prif seremonïau a Gŵyl Triban?

Mae tocyn maes yr Eisteddfod yn rhoi mynediad i’r prif seremonïau bob dydd, ac i Ŵyl Triban.

Oes angen i mi brynu tocyn ar wahan i'r Sioeau Cynradd a Ieuenctid? 

Oes. Mae rhain hefyd ar cael i'w archebu ar ein system docynnau yma.

Ydw i'n gallu hawlio tocyn incwm is?

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. 

Dyma'r meini prawf:

· Cymhorthdal Incwm

· Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

· Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

· Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 Elfen warantedig

· Credyd Pensiwn Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith

· Credyd Cynhwysol

· Aelodaeth £1

 Mwy o wybodaeth yma.

Ga i brynu tocyn ar y drws? 

Cei! Ond bydd y pris yn codi ar y 1af o Fai felly rydym yn annog pobl i archebu o flaen llaw. Bydd modd cael tocyn incwm is ar y drws, ond bydd angen dod a phrawf i brofi dy fod yn cwrdd â'r meini prawf.

Ydw i'n gallu cael tocyn cyfaill am ddim os ydw i'n berson anabl?

Wyt. Wrth archebu tocyn anabl, mae opsiwn i ychwannegu tocyn cyfaill am ddim.

Ydw i’n gymwys am Aelodaeth £1?

Os yw y plentyn yn derbyn cymorth ariannol megis talebau ariannol tuag at ‘ginio ysgol am ddim’ (Bl1 i fyny), grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol yna pris aelodaeth yw £1.

Sut mae dod o hyd i fy rhif aelodaeth?

Er mwyn dod o hyd i rif aelodaeth, gallwch unai chwilio am ‘Porth yr Urdd’ yn eich blwch e-bost a chwilio am neges gyda theitl ‘Rhif Aelodaeth yr Urdd’. Bydd y neges yma’n cadarnhau yr aelodaeth ac yn nodi’r rhif aelodaeth ynddo, neu gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Porth, cliciwch ar ‘Ymuno/adnewyddu a thalu’ a bydd unrhyw aelodaeth cyfredol yn ymddangos yn y tabl.

Rydw i'n archebu tocyn i fwy nag un person, sut ydw i'n rhannu'r tocynnau?

Os ydych yn prynu tocynnau i grŵp, gôr neu ysgol a ni fydd pawb yn cyrraedd gyda’i gilydd, bydd yn rhaid i chi argraffu’r tocynnau (neu dynnu lun ar sgrin) a’u rhannu gyda’r aelodau o flaen llaw iddyn nhw allu cael mynediad i’r Maes.

Mae fy mhlentyn yn cystadlu - ydi nhw angen tocyn maes?

Os yw eich plentyn yn cystadlu yn yr Eisteddfod, bydd angen tocyn arnyn nhw. Mae rhain ar gael gyda'r tocynnau cyffredin o dan tocyn cystadleuydd gyda pris gostyngol ar eu cyfer.

 

 

Ga’i brintio fy nhocyn maes?

Rydym yn annog mynychwyr Eisteddfod yr Urdd i ddefnyddio ffôn i arddangos tocynnau. Os oes rhaid printio eich tocyn, mi fyddwn yn gallu sganio’r tocyn ar bapur.

Dwi'n hyfforddi / athro. Ydw i'n cael tocyn am ddim?

Rydym yn cynnig un tocyn oedolyn am ddim ar gyfer pob 10 tocyn cystadleuydd sy’n cael eu archebu mewn un archeb. Bydd y tocyn yma yn cael ei ychwanegu i’ch basged ar ein system docynnau.