Eisteddfod yr Urdd x Charanga Cymru x Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru

Mae traciau cefndir Eisteddfod yr Urdd 2026 bellach ar gael ar blatfform Charanga Cymru!

Yn ogystal â Phartïon Unsain a Chorau, Darnau Unigol a Deuawdau ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd, mae hefyd Partïon Unsain a Chorau Adran.

Yn yr adran ddogfennaeth, fe welwch restr o gyhoeddwyr ar gyfer y traciau cefndir a ddarperir, cyflwyniad i theori cerddoriaeth i helpu deall nodiant cerddoriaeth, a chanllaw athrawon ar sut i rannu’r traciau gyda disgyblion, fel y gallent ymarfer gartref.

Gall eich disgyblion hefyd ddefnyddio YuStudio, ein GSD hawdd ei ddefnyddio i ddechreuwyr, i gefnogi eu ceisiadau yng nghategorïau Cyfansoddi Cerddoriaeth yr ŵyl.

Trwy ddarparu’r adnodd gwerthfawr yma, rydym yn gobeithio datblygu’r cyfleoedd sydd gan blant ac athrawon i gymryd rhan ym Mhrif Ŵyl ddiwylliannol ieuenctid Cymru, gan sicrhau bod yr Urdd i Bawb.