Mynydd Twr, Caergybi

Wrth hwylio i gyfeiriad Ynys Môn, un o’r nodweddion cyntaf welwch chi yw’r mynydd sy’n edrych i lawr ar Gaergybi. Holyhead Mountain yw’r enw cyffredin ar y mynydd hwn yn Saesneg ond enw diweddar iawn yw’r enw hwnnw, yn cael ei gofnodi o ddechrau’r 19 ganrif, wedi ei arfer gan deithwyr o Iwerddon mae’n debyg. Yr enw Cymraeg oedd Mynydd Twr. Cyfeirio mae’r gair twr ‘tomen, cruglwyth’ (meddyliwch am y gair pentwr) at gopa creigiog y mynydd. Ond mae’n hawdd deall sut y datblygodd y syniad mai tŵr oedd o (yn hytrach na twr) oherwydd bod y Rhufeiniaid wedi codi tŵr gwylio yng nghanol y gaer a gysylltwyd wedyn â’r sant Cybi. Hefyd mae tŵr yn air llawer mwy cyfarwydd na twr. Ond gofalwn gadw Mynydd Twr.

Porth Amlwch

Ar gyrion Amlwch mae un nodwedd arfordirol amlwg iawn, sef Porth Amlwch, ac mae lle i gredu mai hwn oedd yr Amlwch gwreiddiol. Mae cilfach hir, sy’n ffurfio Porth Amlwch, gan greu hafan ddiogel a fyddai wedi denu llongwyr erioed. Cofiwn mai ‘harbwr, hafan’ yw prif ystyr porth yn Gymraeg nid ‘port’ Saesneg. Gair am gilfach oedd llwch, yr union air a geir yn lough yn Iwerddon a loch yn Yr Alban. Yn wir, mae rhai wedi dadlau mai’r Gwyddelod eu hunain a roddodd y gilfach hon ar y map fel petai, ac mai gair Gwyddeleg yn wreiddiol oedd y tu ôl i’r llwch Cymraeg. Ystyr am- mewn enwau lleoedd yw ‘o gwmpas, bob ochr’. Felly, treflan a ddatblygodd ‘o gwmpas y gilfach’ (am lwch) oedd Porth Amlwch cyn i’r enw wedyn gynnwys yr Amlwch presennol

Trwyn y Balog

Heb fod ymhell o Amlwch mae’r enw gogleisiol Trwyn y Balog. Perthyn i diroedd helaeth eglwys Llaneilian oedd y penrhyn hwn, ac abad oedd pennaeth yr eglwys. Enw ar offeiriad yn cario bagl neu ffon yr abad oedd baglog neu balog. Ymhen amser fe aeth Balog yn enw fferm ar y tir hwn, er iddo gael ei newid i Bay Lock ar un cyfnod i geisio cuddio’r awgrym bod unrhyw gysylltiad o gwbl â’r balog ar flaen trowsus. Gair hollol wahanol yw hwnnw.

Cemaes

Nodweddion arfordirol sy’n egluro Cemaes hefyd. Mae’r hen air Cymraeg camas yn golygu ‘tro, dolen, plyg’. Y ffurf luosog oedd cemais, yn cyfeirio yma at yr arfordir o gwmpas Cemaes, neu, a hynny sy’n fwy tebygol, at ddolennau afon Wygyr wrth iddi gyrraedd y môr yn Porth Wygyr, hen enw ar Gemaes (wedi’i gofnodi yn 1194), yn ôl pob tebyg. Enw personol yw Gwygyr gyda llaw. Roedd hi’n 1238 ar Kemeys yn cael ei gofnodi. Mae sawl Cemais yn ne Cymru ond yn y canolbarth a’r gogledd y ffurf Cemaes a sefydlodd ei hun.

Y Fali

Ymwelwyr o fath gwahanol roddodd RAF Valley ar y map. Ond mewn gwirionedd mae’r enw i’w briodoli ymhell cyn hynny i ddyfodiad y goets fawr a’r angen i gludo’r post i Iwerddon. Codwyd Cob (y Stanley Embankment) yn 1822-3 i hwyluso trafnidiaeth, gan ddefnyddio llawer o weithwyr o Iwerddon. Yn wir, ar y pryd, un enw ar y dreflan lle trigai’r gweithwyr oedd Pentre Gwyddelod. Roedd tafarn yno o’r enw The Valley, cyfeiriad at y cloddio tyfn oedd ei angen i ddarparu rwbel ar gyfer seiliau’r Cob. Ymhen amser, aeth Valley yn enw ar y dreflan ei hun. Daeth y rêl, yr A5, a chroesffordd brysur ac fe agorwyd stesion yn 1848, hynny i gyd ychydig i’r dwyrain o’r dreflan wreiddiol, a ddaeth i’w hadnabod fel Hen Valley. Dim sôn am Dyffryn sylwch, er gwaethaf ymdrech fwriadol yn yr 70au a’r 80au i fathu a mabwysiadu’r cyfieithiad. Ers blynyddoedd y Cymreigiad safonol ydy Y Fali.

Llangefni

Cyfeirio mae Llangefni at yr afon Cefni (er mai i sant Cyngar y cysegrwyd yr eglwys ei hun). Tarddiad enw’r afon ydy’r gair cafn, sef y ceunant cul ar gyrion y dref, ceunant a gafodd sawl enw dros y blynyddoedd megis Nant y Dilyw, Nant y Pandy a’r Dingle. Llifai’r Cefni i’r môr ym Malltraeth, ond llif araf iawn oedd iddi oherwydd natur y tir yng Nghors Ddyga a Morfa Malltraeth. Rhwng yr 18 ganrif a chanol y 19 ganrif bu sawl ymdrech i gamlesu’r afon ac ar un cyfnod cyfeiriwyd at ei chwrs newydd rhwng Llangefni a Malltraeth fel yr Afon Fawr. Adferwyd tua tair mil o aceri wrth godi Cob Malltraeth. O edrych ar fapiau’r Arolwg Ordnans fe welwch yr enw Hen Afon Cefni yn cyfeirio at ei hen gwrs araf yn dolennu i’r gorllewin o’i chwrs presennol. Mae ambell enw megis Glan-traeth, Glan yr Afon, Rhyd Lydan a Tyddyn y Criw wedi goroesi hyd heddiw, enwau ar ffermydd oedd unwaith ar lan cwrs gwreiddiol afon Cefni. Mae’r enw Malltraeth ei hun yn cadarnhau natur y tir, sef mall ‘llaith, afiach’. Enw cyfarwydd i drigolion lleol oedd Yr Iard (Malltraeth Yard), gan i Malltraeth ddod yn borthladd bach ble’r adeiladwyd cychod.

Gallow’s Point

Mae iard gychod hefyd ar gyrion Biwmares. Heddiw, enw cyffredin ar leoliad yr iard gychod yw Gallow’s Point, enw a gysylltir â chrogi troseddwyr tu allan i furiau’r dref. Enw arall ar y trwyn oedd Osmond’s Air. Mae hwn yn ddiddorol oherwydd ei fod yn cofnodi presenoldeb y Llychlynwyr, y Vikings, neu o leiaf un ohonyn nhw o’r enw Asmundr (Osmond yn ddiweddarach). Yr ail elfen yn Osmond’s Air yw’r gair Norseg eyrr sy’n golygu ‘twyn graeanog’; fe welwch yr un elfen yn Point of Ayr. Ni allwn adael y llecyn heb gyfeirio at hen enw Cymraeg arno sef Penrhyn Safnast, sef safn ast ‘bitch’s jaw’, rhybudd o’r peryglon yn wynebu morwyr wrth hwylio i gerrynt twyllodrus y Fenai.

Biwmares

Gerllaw mae Biwmares/Beaumaris ei hun. Mae’r enw yn mynd yn ôl i ddiwedd y 13 ganrif, pan sefydlwyd bwrdeistref a chastell i warchod pen dwyreiniol y Fenai (gyda chastell Caernarfon yn y gorllewin). Mae’r ddwy elfen Ffrangeg-Normanaidd beau marais yn cyfeirio at y ‘morfa teg’ y codwyd y castell arno. Yn Ffrangeg yr Oesoedd Canol fel biw y byddai beau yn cael ei ynganu nid fel beau Ffrangeg Modern, felly mae Biwmares yn llawer nes at yr ynganiad gwreiddiol na Beaumaris. Yn lleol mae’r ynganiad Bliwmares yn ddigon cyffredin. Mae’n digwydd oherwydd bod B- neu P- ar ddechrau gair yn gallu magu -l- yn ei dilyn. Meddyliwn am Pumlumon ochr yn ochr â Plynlimon, a phentref Plwmp (sef ‘pwmp dŵr’) yng Ngheredigion.

Niwbwrch

Ar nodyn hanesyddol mae’n werth nodi bod y brenin Edward, wrth ddatblygu’r fwrdeistref, wedi penderfynu disodli llawer o Gymry’r dref (neu’r burh ‘borough’ yn Hen Saesneg, a ynganwyd fel bwrch) a’u hanfon i burh newydd mewn rhan arall o’r ynys. Newborough oedd y burh newydd. Ond sylwch fel y mae’r Cymreigiad Niwbwrch yn llawer nes at yr ynganiad Saesneg gwreiddiol na Newborough heddiw, yn union fel y mae Biwmares yn nes at y Ffrangeg gwreiddiol na Beaumaris.

Ynys Seiriol

Cyfeiriwyd eisoes at y Llychlynwyr. Roedd lawer cyrch ganddynt ar Fôn a hynny o Iwerddon mae’n debyg. Mae Ynys Seiriol yn arddel enw Norseg sef Priestholm, ble mae holm yn golygu ‘ynys’ (fel yn Flatholm, Morgannwg, a Grassholm, Penfro) gyda chyfeiriad at y mynachdy a sefydlwyd gan Cynlas, brawd Seiriol. Mae dau enw arall ar Ynys Seiriol: Ynys Lannog (enw personol) ac wrth gwrs y Puffin Island diweddar. Tarddiad yr enw Anglesey ei hun yw dwy elfen Norseg, sef yr enw personol Ongull a’r gair ey ‘ynys’ (a welir mewn sawl ynys arall ar arfordir Cymru megis Bardsey, Caldey a Ramsey).

Ynys Môn

Beth am Môn? Dyma un o’r enwau hynaf oll yng Nghymru, yn mynd yn ôl i’r ffurf Mona a gofnodir felly gan y Rhufeiniaid ganrif cyn geni Crist. Ni allwn fod yn hollol ddiogel o ystyr Mona a Môn, ond mae’n bosibl bod rhyw gysylltiad â hen elfen Frythoneg men- a’r elfen Gymraeg myn- fel sydd yn y gair mynydd. Os yw hynny’n wir, dyma gyfeiriad eto at Fynydd Twr, Caergybi, y nodwedd fwyaf amlwg i forwyr o ble bynnag y dônt. Ac arwydd bod Môn yn croesawu pawb, yn arbennig i Eisteddfod yr Urdd 2026.

Diolch yn fawr iawn i’r Athro Hywel Wyn Owen, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am yr erthygl ddiddorol yma yn trafod enwau lleoedd yn Môn.