Chwe gwobr i gystadleuwyr sy’n serennu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd eleni, gyda chefnogaeth rhai o dalentau mwyaf Cymru.
Mae enwau’r gwobrau newydd fel a ganlyn:
- Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol)
- Gwobr Amy Dowden (dawns)
- Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd)
- Gwobr Matthew Rhys (theatr)
- Gwobr Rakhi Singh (offerynnol)
- Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan)
Bydd pob enillydd yn derbyn sesiynau mentora, cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach ynghyd â chyfle i arddangos eu talent i gynulleidfa fyd-eang mewn digwyddiadau mawreddog yn ystod y flwyddyn.
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, 2026 yng Nghae Sioe Môn rhwng 23 - 29 o Fai, ac mae angen i gystadleuwyr 19-25 oed gofrestru i gystadlu erbyn 2 o Fawrth 2026. Bydd tîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r Urdd a CBCDC yn bresennol yn yr ŵyl i benderfynu ar y chwech buddugol, a’r enwau’n cael eu cyhoeddi’n fyw ar S4C ar ddiwrnod olaf y cystadlu.
Cystadlaethau sy’n gymwys –
Gwobr Bryn Terfel
- Unawd 19–25 oed
- Cyflwyno Alaw Werin Unigol 19–25 oed
- Unawd Cerdd Dant 19–25 oed
Gwobr Amy Dowdon
- Dawns Stepio Mewn Arddull Draddodiadol Merched Bl.10 ac o dan 25 oed
- Dawns Stepio Mewn Arddull Draddodiadol Bechgyn Bl.10 a dan 25 oed
- Dawns unigol 19-25 oed mewn unrhyw arddull ac eithrio Dawnsio Gwerin
Gwobr Matthew Rhys
- Llefaru Unigol 19–25 oed – Gwobr Matthew Rhys
- Monolog 19-25 oed – Gwobr Matthew Rhys
Gwobr Rakhi Singh
- Unawd Offerynnol 19–25 oed
Gwobr Callum Scott-Howells
- Perfformiad o Gân Sioe Gerdd 19-25 oed
Gwobr Sarah Hemsley-Cole
- Portffolio Cefn Llwyfan 19-25 oed