Gweithiodd blant Ysgol Rhosafan ac Ysgol Cwmafan gyda Tara Bandito i ffurfio rap dwyieithiog, rhannu neges am eu hardal nhw, a dathlu dyfodiad yr Eisteddfod drwy’r iaith Gymraeg. Cydweithiodd y criw am y tro cyntaf i greu fideo cerddoriaeth llawn bwrlwm Port Talbot.
Prosiect celf a cherddoriaeth, lle bu grŵp o ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe yn creu llusernau papur ar thema Tebot Piws, tra’n dathlu cyfraniad y diweddar gerddor Dewi Pws i ddiwylliant Cymraeg. Crëwyd fideo cerddoriaeth gyda band lleol o Gastell-Nedd Port Talbot yn perfformio’r gân enwog, ac fe gafodd y llusernau eu harddangos yn ystod Gŵyl Triban.
Ar faes Eisteddfod yr Urdd, bu criw o bobl ifanc o’r gymuned LHDTC+ yn defnyddio cynhwysion amryliw er mwyn coginio'r enfys gyda Lloyd Henry, i gyfeiliant ensemble Cawl Cerdd yn chwarae Heddwch gan Schubert, un o fawrion y byd clasurol.

Bu nifer o weithdai celf yn cael eu cynnal ar draws y sir er mwyn addurno’r maes mewn arddull unigryw, drwy addurno tai teras i ddathlu can mlynedd ers geni Richard Burton a dathlu hynodrwydd yr ardal hon. Cydweithiwyd â grwpiau fel Tŷ Hafan, Clwb Ieuenctid Trebanws, Grŵp LHDTC+ YMCA Castell-Nedd ac eraill er mwyn sicrhau bod y gymuned leol yn cael ei chynrychioli’n deg ac yn eang ar y Maes.
Daeth grŵp LHDTC+ Castell Nedd a Nia Morais, Bardd Plant Cymru ynghyd i ysgrifennu cerdd, cyn gweithio gydag Aur Bleddyn i greu celf wedi'i ysbrydoli gan y gerdd honno ar gyfer strydoedd Castell Nedd. Gwylia allan am y prosiect yma ar raglen y Sîn yn y flwyddyn newydd!
