Dewch gyda ni i Llyn Garda yn 2026!
Cyfle bythgofiadwy i ddisgyblion Bl. 9-10 i fynd ar wyliau gyda'u ffrindiau, a chyfle i wneud rhai newydd i un o wledydd atyniadol Ewrop ,Bydd yn cynnwys ymweld a Venice.
Mae'r daith hon ar gyfer disgyblion sydd am fod yn Blwyddyn 9 neu 10 ym mis Gorffennaf 2026
Pryd mae'r daith?
Gorffennaf 23-30ain 2026
Pa mor hir mae'n para?
Wythnos
Beth yw'r pris?
£999 ar gyfer aelodau'r Urdd - os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma. Bydd blaendal o £99 wrth archebu, a chynllun talu dros gyfnod o 10 mis, neu fe allwch dalu'n llawn.
Beth sy'n cael ei gynnwys yn y pris?
- Trafnidiaeth o fannau casglu penodol ar draws Cymru
- Croesi o Dover i Calais ar y llong
- Gwesty 'Full Board'
- Ymweliad Gardaland
- Ymweliad Aqua Paradise, Canevaworld a Movieland
- Ymweld a phentref Riva del Garda a thaith gwch ar Llyn Garda
- Ymwliad a Venice gyda thaith gwch o Tronchetto i San Marco - Yymweld a St Mark's Square, Llogi gondola a siopa!
- Ymweld a phentref Malcesine a thaith Cable Car i ben Mynydd Balbo
- Yswyriant Teithio llawn
- Diwrnod o ymlacio wrth y pwll
- Staff a gwirfoddolwyr profiadol yn arwain y ffordd
- Lot fawr o hwyl!
Esiampl o Amserlen
Dydd Iau
Teithio - Gadael yn y bore o fan casglu ar draws Cymru - Byddwch angen bwyd ar gyfer y daith.
Fferi yn hwylio am Ffrainc yn y prynhawn, bws yn teithio trwy'r nos i lawr i Llyn Garda
Dydd Gwener
Cyrraedd y Gwesty : Hotel Gardesano - Hotel Lago di Garda - Bussolengo Verona erbyn ganol prynhawn a threfnu Ystafelloedd.
Cofiwch roi gwisg nofio a towel i mewn olaf yn eich cês, er mwyn medru eu hestyn yn hawdd!
Prynhawn rhydd wrth y pwll nofio ac ar y gwlâu haul
Swper yn y Gwesty
Dydd Sadwrn
Gardaland
Brecwast, a gadael am y parc yn syth.
Treulio diwrnod cyfan yn mwynhau yn un o barciau hamdden fwyaf Ewrop!
Swper yn y gwesty
Dydd Sul
Canavaworld, Aquapark a Movieland
Reids dŵr di-ri yma! Rhai cyflym, rhai araf, rhywbeth at ddant pawb.
Pecynnau bwyd yn cael eu darparu.
Swper yn y Gwesty
Dydd Llun
Venice
Taith gwch i fewn i San Marco ac yna cyfle i logi gondola, siopa a ymweld a rhai o atyniadau mwya 'r ddinas.
Nôl i’r gwesty yn hwyr.
Dydd Mawrth
Ymweld a phentref Malcesine a thaith Cable Car i ben Mynydd Balbo
Brecwast yna gadael am y parc dŵr.
Swper yn y Gwesty.
Dydd Mercher
Diwrnod olaf
Brecwast, pacio’r bws.
Cyfle i ymlacio wrth y pwll drwy'r dyddd cyn cychwyn adref
Gadael tua 16:30, dechrau teithio am adre am 21:00
Dydd Iau
Cyrraedd nôl i Gymru yn hwyr.
Rhestr pacio
- Pasbort a cherdyn UKGHIC
- Arian (ewro a sterling)
- Clustog a blanced ar gyfer cysgu ar y bws
- DVDs, llyfrau ac adloniant addas
- Sbectol Hapul!
Cwestiynau cyffredin
Pa ddogfennau sydd eu hangen?
Bydd angen dod â phasbort cyfredol a cherdyn UKGHIC; bydd staff yr Urdd yn gofalu am y rhain yn ystod y daith. Mae modd gwneud cais am gerdyn UKGHIC yma: www.ehic.org.uk
Bydd rhaid sicrhau fod gofynion mynediad yn unol a rheolau'r swyddfa dramor :https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/france/entry-requirements
Oes angen archebu yswiriant?
Mae yswiriant yn gynwysedig ym mhris y daith, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyflwr sy'n bodoli eisoes.
Faint o arian gwario sydd ei angen?
Rydym yn argymell dod â €60 a £40 ar gyfer bwyd. Mae arian gwario ar bethau eraill (anrhegion, lluniau) i fyny i chi. Ni fydd aelodau staff yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am arian eich plentyn.
Sut mae'r Ystafelloedd yn cael eu sortio?
Wrth archebu mae ffurflen i'w lenwi fewn i nodi pwy ydi'r ffrindiau sydd yn mynychu'r daith, fe fyddwn yn gwendu pob ymdrech i sicrhau fod pawb yn hapus gyda'u ystafelloedd ac efo pwy mae nhw'n rhannu.
Mae'r Ystafelloedd yn gymysgedd o ystafelloedd i 3 neu 4 yn ddibynnol ar y Gwesty