Mae Tomi Roberts-Jones wedi bod yn brentis lefel 2 chwaraeon dros y flwyddyn ddiwethaf, wnaethom addasu ei rhaglen a rhoi'r cyfle iddo weithio’n rhan amser gan i fod yn athletwr gyda gofynion hyfforddi a thargedau iddo daro tu allan o’r gwaith.  

Yn y gwaith mae Tomi yn helpu darparu clybiau chwaraeon i blant ar draws Caerdydd, yn cadw nhw yn ddiogel tra bo nhw’n cael profiadau hwyl a gwneud ymarfer corff ar yr un pryd.  

Tu allan o’r gwaith mae Tomi yn athletwr, sydd wedi cystadlu dros Gymru yn gemau ieuenctid y Gymanwlad yn Nhrinidad a Tobago yn 2023.  Wnaeth Tomi ennill medal aur gyntaf i Gymru yn y Gemau Cymanwlad Ieuenctid erioed.  Roedd hyn yn ras T38 100m i ddynion, amser Tomi oedd 13.27. 

Ar hyn o bryd mae Tomi yn rhan o gomisiwn athletau Tîm Cymru, ar gyfer gemau'r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2026. Dywedodd Tomi Mae'n gyfle gwych i gynrychioli llais yr athletwr a chyfrannu at ddyfodol chwaraeon y Gymanwlad. Rwy'n falch o gefnogi cyd-athletwyr." 

Yn y dyfodol mae Tomi eisiau parhau i gystadlu a hefyd i weithio o fewn y maes chwaraeon.   

Mae Tomi’n dangos pawb does dim byd yn gallu dal ti nol o dy freuddwydion. Mae gwaith caled a dyfal parhad yn talu ffordd.