Rydym wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Ffalabalam ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Mae Ffalabalam yn feithrinfa gyda dau safle yng Ngwynedd, ac mae staff y meithrinfeydd wedi dilyn cymwysterau Gofal Plant o Lefel 2 hyd at Lefel 5, gyda sawl un hefyd yn derbyn tiwtora sgiliau hanfodol gan ein tîm HWB. 
 
Dywedodd Menna Jones, y cyfarwyddwr: 
“Rydym yn feithrinfa sy’n credu’n gryf bod y staff yn dysgu ac yn datblygu eu sgiliau ar lawr y feithrinfa, ac mae’r Urdd yn wych am gydweithio gyda ni fel cwmni, gyda’r staff sy’n arsylwi yn cynghori ac yn hyfforddi mewn ffordd broffesiynol iawn.” 
 
Mae Ella Grace Roberts yn dod o Fangor, ac fe fynychodd Ysgol Tryfan cyn cychwyn ar ei phrentisiaeth. Mae Ella yn brentis Gofal Plant Lefel 2, ac fe’i henwebwyd am Brentis y Mis gan ei hasesydd Rebecca, gan ei bod hi’n “dod i ddiwedd ei chwrs rŵan, ond wedi llwyddo i ddatblygu gymaint yn ystod y cymhwyster. Pan gychwynnodd Ella ar ei phrentisiaeth, roedd hi newydd orffen ysgol ac yn ddibrofiad yn y gweithle. Mae ei hyder gyda’r plant a’r ffordd mae hi’n gofalu amdanynt yn ffantastig, ac mae ei hyder wrth gwblhau gwaith cwrs wedi datblygu’n fawr iawn hefyd. Wrth ei harsylwi, gallaf weld faint mae hi’n mwynhau ei swydd a bod gyda’r plant.” 
 
Rydym wedi addasu’r cwrs i siwtio Ella, ac oherwydd hyn mae hi’n dweud ei bod hi’n mwynhau dysgu ac eisiau gwneud gwaith a myfyrio yn ei hamser ei hun. Mae hyder Ella wrth ddefnyddio’r Gymraeg i recordio a chyflawni gwaith ysgrifenedig wedi cynyddu yn ystod y cwrs hefyd. 
 
Dywedodd Ella am gwblhau’r cwrs yn y Gymraeg: 
“Rwy’n falch fy mod yn gallu siarad ac ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg; mae’n beth pwysig i mi, ac mae hefyd yn bwysig i mi allu siarad Cymraeg gyda’r plant.” 
 
Mae’r cymwysterau Gofal Plant yn gosod safon o fewn meithrinfeydd yng Nghymru, gan alluogi’r staff i wella eu hymarfer a helpu’r plant i ddatblygu mewn amgylchedd diogel.