Rydym wedi gweithio gyda GLL / Better Cardiff dros nifer o flynyddoedd, ac maent yn rheoli nifer o ganolfannau hamdden rhagorol ar draws dinas Caerdydd. Mae sawl aelod o’u tîm wedi elwa o gwblhau prentisiaethau’r Urdd, gyda rhai yn llwyddo i ennill cymhwyster Lefel 2 Chwaraeon, Hamdden a Lles Actif, ac yn fwy diweddar Lefel 3 Rheoli Hamdden.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Chelsea Deacon ei chymhwyster Lefel 3 Rheoli Hamdden yng Nghanolfan Hamdden Maendy yng Nghaerdydd, a dyma oedd gan ei rheolwr llinell, Anthony Hayes, i’w ddweud am y profiad:
“Mae hwn yn enghraifft berffaith o sut mae buddsoddi yn eich gweithlu yn talu ar ei ganfed, i’r unigolyn ac i’r busnes. Pan wnaethom recriwtio Chelsea i ymuno â chynllun Prentisiaethau’r Urdd am y tro cyntaf, roedd yn amlwg o’r cychwyn ei bod yn anelu am lwyddiant yn ei rôl fel Cynorthwyydd Hamdden a Hyfforddwr Ffitrwydd yng Nghanolfan Better Maendy.
Mae Chelsea wedi mynd o nerth i nerth diolch i gefnogaeth yr Urdd—nid yn unig o safbwynt cymwysterau, ond hefyd drwy’r daith emosiynol a arweiniodd at gwblhau Lefel 3 mewn Rheolaeth Weithredol. Mae’r cymhwyster hwn bellach yn golygu y gall Chelsea gymryd y cam nesaf yn ei chynllun i arwain ac i reoli tîm canolfan hamdden.”