Mae adran Chwaraeon ag adran Gymunedol yr Urdd wedi ymweld â Kenya eto eleni, yn gweithio ar y cyd gydag elusen ‘Moving the Goalposts’.  Mae’r elusen yn ysbrydoli ac yn addysgu merched drwy chwarae pêl-droed yn eu cymunedau. Buodd tair o brentisiaid yr Urdd i Kenya yn ystod mis Awst, a dyma gipolwg ar brofiadau Mali, Ceila ac Eleri. 
 
Beth oedd dy argraff gyntaf wrth i ti lanio yn Kenya? 

Mali:-  Fy argraff gyntaf pan wnes i lanio yn Kenya oedd bod pawb mor groesawgar, a pan aethon ni allan o'r maes awyr roedd swyddog y gymuned yn aros i'n croesawu ni. Roedd hi’n llawn cyffro amdanom ni’n cyrraedd ac roedd hi’n hynod o groesawgar. Roeddwn yn gyffrous iawn i ddechrau'r wythnos, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. 
Ceila:-  Roeddwn yn gyffrous ofnadwy i gael y profiad! A be oedd yn neis iawn oedd gweld pobl mor groesawgar, a'r gwres yn braf wrth gwrs!    
Eleri:-  Wrth lanio yn Kenya, fy argraff gyntaf oedd pa mor boeth oedd hi, a pa mor neis oedd pobl y gymuned. 
 
Beth oedd pwrpas y daith? 

Mali:-  Pwrpas y daith oedd dysgu sgiliau chwaraeon i blant Kilifi yn Kenya, ac ymgysylltu â phobl ifanc, gan gyfnewid a rhannu syniadau 
Ceila:- I hyrwyddo merched ifanc a phlant drwy eu dysgu am wahanol chwaraeon, ac i'w helpu i ddeall eu hamcanion am y dyfodol drwy ddysgu sut i ysgrifennu CV, drwy ddeall beth yw hyfforddwr da a drwg, a thrwy addysgu'r pwysigrwydd o fod yn garedig.  
Eleri:-  Pwrpas y daith oedd dysgu chwaraeon newydd i ferched yn Kenya, a dysgu sgiliau gwahanol iddynt,  gan gynnwys ysgrifennu CV, gwybodaeth ar sut i wneud cyfweliad, sgiliau cyfathrebu a llawer mwy. 
 
Wnaethost di fwynhau bod yn rhan o’r daith?  Beth oedd dy uchafbwynt?

Mali:-  Ie, roeddwn yn caru bod yn rhan o'r daith ac mi gefais brofiad bythgofiadwy. Mae’n anodd pigo uchafbwynt oherwydd roedd y daith gyfan yn anhygoel, ond dysgu sgiliau a chwaraeon newydd i blant Kenya oedd fy hoff ran o’r daith. Roedd gweld y plant yn gwenu ac yn chwerthin yn ddyddiol wedi gwneud y daith yn hynod werthfawr. 
Ceila:-  Do, yn fawr iawn! Mwynheais weld gwên ar wynebau'r merched, a sut oedd diwrnod o'n hymweliad ni yn effeithio’n bositif arnynt. Fe wnaeth hynny wneud i mi werthfawrogi'r pethau sydd gennym adref yn fwy. 
Eleri:-  Wnes i gael cymaint o hwyl ar y daith , wrth ddysgu am wahanol gymdeithasau yn Kenya, a’r grefydd wahanol sydd yn bodoli yn ardaloedd gwahanol Kenya. Uchafbwynt y daith oedd dysgu grŵp o ferched sut i  gyfathrebu trwy ‘sign language’, a’r hapusrwydd ar ei hwynebau wrth dangos i bawb eu henwau drwy’r ‘sign language’. 
 
Beth ddysgais di am dy hun yn ystod y daith yma?

Mali:-  Yn ystod y daith, wnes i ddysgu llawer amdanaf fy hun. Wrth dreulio amser gyda'r plant yn Kenya, dysgais am fy ngallu i addasu. Roedd gweld eu brwdfrydedd am chwaraeon, er nad oedd ganddynt lawer, yn gwneud i mi werthfawrogi'r adnoddau rwy'n aml yn eu cymryd yn ganiataol. Roeddwn yn synnu pa mor hawdd y gall hapusrwydd ddod o bethau syml, fel gêm bêl-droed. Roedd y profiad hefyd yn gwneud i mi werthfawrogi fy sgiliau cyfathrebu. Roedd goresgyn rhwystrau iaith i gysylltu â'r plant yn dangos i mi pwysigrwydd cyfathrebu non-verbal ac amynedd. Roedd gweld effaith y sesiynau chwaraeon ar hyder a sgiliau tîy plant yn anhygoel o werthfawr. Fe ddangosodd wrthyf fod gennyf y gallu i ysbrydoli a chymhwyso eraill. 
Ceila:- Rwyf wedi dysgu mod i'n caru teithio a helpu eraill, ac rwyf hefyd wedi dysgu hyd yn oed mwy am bwysigrwydd chwaraeon, a sut y gall wneud i chi deimlo. 
Eleri:- Wnes i ddysgu fy mod yn gallu gweithio o fewn amgylcheddau gwahanol, a pha mor hyderus yr oeddwn o fewn sefyllfaoedd heriol. 
 
Sut mae bod yn brentis am y flwyddyn ddiwethaf wedi bod i ti? 

Mali:- Mae bod yn brentis am y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod werthfawr, a dwi wedi cael llawer o brofiadau newydd a gwych. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi creu perthnasoedd newydd gyda fy nghydweithwyr,a hefyd gyda phlant yn yr ysgolion. Rydw i wedi mwynhau bod yn brentis Lefel 2 ac wedi dysgu llawer o sgiliau newydd, a fydd yn fy helpu yn y dyfodol. 
Ceila:-  Llawer o hwyl! Rwyf wedi mwynhau dod i adnabod plant o wahanol ysgolion yn fy ardal, a hefyd gweld eu hwynebau yn y clybiau ar ôl ysgol. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phob aelod o'r tîm a hefyd dysgu technegau newydd oddi wrthynt. 
Eleri:-  Mae bod yn brentis dros y flwyddyn yma wir wedi bod yn brofiad anhygoel, wrth adeiladu perthnasau gyda chydweithwyr a phobl yn y gymuned, ymweld â Slofacia a Kenya, a oedd wir yn brofiad buddiannol.