Cychwynnodd Levi weithio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog yn rhan amser yn wreiddiol, cyn gweld cyfle i ymuno fel prentis, ac erbyn hyn mae’n Swyddog Gweithgareddau yn y GwersyllCychwynnodd Levi fel prentis Chwaraeon, Hamdden a Lles Actif Lefel 2, cyn symud ymlaen i wneud cymhwyster Awyr Agored Lefel 3.  Ar gyfer y cymhwyster Lefel 3, roedd rhaid i Levi gwblhau cymhwyster Cyfathrebu Lefel 3 i gyd-fynd efo’r brentisiaeth.  Mi oedd hwn yn waith ychwanegol iddo, ond gydag arweiniad ei asesydd a help ein tiwtor HWB, mi lwyddodd Levi i gwblhau hwn hefyd.  
 
Yn ystod ei amser fel prentis, cododd hyder Levi yn sylweddol, ac mae nawr yn teimlo ei fod yn gallu siarad efo unrhyw un.  Mi wnaeth Levi elwa o sawl profiad gwahanol yn ystod ei brentisiaeth - mae wrth ei fodd yn gweithio gyda cheffylau’r gwersyll, a hefyd wedi ennill cymhwyster Arweinydd Tir Isel, sydd yn ei alluogi i arwain grwpiau ar yr arfordir gyda hyder, ag efo dealltwriaeth o’r peryglon a’r manteision o fod allan yn yr awyr agored. 
 
Pan ofynnwyd i Levi beth fyddai’n ei ddweud i rhywun sy’n ystyried cychwyn ar brentisiaeth, mi ddywedodd “ewch amdani, dwi heb ddifaru o gwbl!”. Mae Levi wedi gweld newid sylweddol yn ei hun ers cychwyn ar ei brentisiaeth, ac mae nawr yn teimlo ei fod wedi gwella ei hyder a’r wybodaeth sydd ganddo.