Mae Eleri Richards yn brentis Datblygu Chwaraeon Lefel 3, ac yn gweithio yn ardal Caerffili. Mi fynychodd Ysgol Cwm Rhymni cyn gweithio gyda’r Urdd ac mae hefyd yn byw yng Nghaerffili.
Mae Eleri wedi cael i enwebu gan ei asesydd Jac, am ei dyfalbarhad ac am ei gwaith sydd yn gyson ac o safon wych. Mae Eleri yn rhan bwysig ofnadwy o dîm Chwaraeon yr Urdd. Dewch i ni ddarganfod tipyn bach mwy amdani.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Roedd yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy iaith Cymraeg, hyfforddi gwahanol chwaraeon i phlant a phobl ifanc, a hefyd bod yn rhan o dîm gweithgar.
Beth wyt ti’n mwynhau fwyaf am y brentisiaeth?
Y cystadlaethau, fel y Rygbi 7s neu’r Gwŷl Gynradd yn Aberystwyth. Roedd hi'n brofiad newydd, lle ddatblygais cymaint o sgiliau, a hefyd cael cyfle i weithio gydag aelodau o staff newydd.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn feddwl i ti?
Mae hi'n gyfle gwych i ddatblygu fy iaith Cymraeg ymhellach, yn ogystal â chyfle i mi ffeindio swydd yn y dyfodol.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rydw i'n hoffi siopa a chymdeithasu gyda ffrindiau.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae’r brentisiaeth wedi helpu i gynyddu fy hyder wrth weithio mewn amgylcheddau gwahanol, fel cystadlaethau, hyfforddiant neu mewn clybiau newydd.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Lythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Mae datblygu fy sgiliau cyfathrebu wedi helpu fy mhrentisiaeth cymaint - wrth i mi weithio efo pobl yn y gymuned, mae fy nealltwriaeth a sgiliau cyfathrebu wedi datblygu yn gyson. Mae hyn wedi helpu fy mhrentisiaeth, gan fy mod nawr yn wynebu pob tasg gyda hyder, a hefyd gyda dealltwriaeth o’r byd chwaraeon.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Rwyf yn gobeithio mynd ati i gwblhau hyfforddiant Datblygu Chwaraeon Lefel 4 gyda'r Urdd.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
-rhedeg sesiynau sydd yn hwy lac yn ddiogel.
-darparu cyfleodd i'r gymuned.
-rhedeg sesiynau CPA.
-rhedeg gwersylloedd yn yr ardal.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, cyffroes a gwobrwyol.