Mae Sara Evans yn brentis Datblygu Chwaraeon Lefel 3, ac mae hi’n hyfforddi ac yn hyrwyddo chwaraeon yn ardal Caerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin cyn cychwyn ar ei phrentisiaeth. 
 
Cafodd Sara ei henwebu gan ei hasesydd Carys, a dyma’r hyn a ddywedodd hi: 
“Mae Sara wedi dechrau ei phrentisiaeth Lefel 3 yn arbennig o gryf ac yn arwain sesiynau o’r safon uchaf. Mae’n paratoi o flaen llaw fel bod pob sesiwn yn gynhwysol ac yn annog pob cyfranogwr. O ran gwaith cwrs, mae Sara yn cyflwyno gwaith arbennig o dda ac yn rheoli ei hamser yn wych. Mae’n awyddus i ddatblygu ac yn cyfrannu’n effeithiol i weithdai sy’n elwa prentisiaid eraill.” 
 
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Nid oeddwn yn sicr ynglŷn â beth i astudio yn y brifysgol, felly wnes i gymryd cam yn ôl ac edrych am opsiynau eraill a fyddai’n fuddiol. Wedyn, drwy gysylltiadau, wnes i ddarganfod yr opsiwn o brentisiaeth gyda’r Urdd.  

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y brentisiaeth?  

Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd a chael amrywiaeth o brofiadau, megis mynychu cwrs tennis bwrdd, cwrs hyfforddi gymnasteg, a chyrsiau sy’n ehangu fy ngallu gyda disgyblion. Ond y peth rwy’n ei fwynhau fwyaf yw gweld plant yn llwyddo — boed hynny’n llwyddiant bach, megis gallu dal pêl, neu lwyddiant mwy, fel saethu a sgorio ym mhêl-rwyd. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei feddwl i ti?

Rwy’n angerddol iawn dros y Gymraeg, ac mae’n fraint gallu gweithio mewn mudiad sy’n hyrwyddo’r iaith. O ran fy ngwaith cwrs, mae wedi gwneud bywyd yn haws gallu gwneud y cymwysterau drwy’r Gymraeg. Mae hyn yn help mawr i mi, gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf. 
 
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?  

Rwy’n chwarae hoci i Glwb Hoci Llandysul.  

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?  

Mae’r sgiliau hyn wedi bod yn werthfawr i mi o gychwyn y brentisiaeth, ac rwy’n defnyddio’r sgiliau hyn heb sylwi erbyn hyn. Rwy’n cyfathrebu bob dydd, boed gyda disgyblion, athrawon, cydweithwyr neu rieni. Rwyf hefyd yn defnyddio sgiliau rhifedd mewn clybiau, er enghraifft i gyfri sawl cyfranogwr sydd yna, os oes angen rhannu’r cyfranogwyr i dimau, pa rif fyddai’n gyfartal ar gyfer timau teg, ac hefyd wrth amseru’r sesiwn. 
 
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Rwyf wedi ymgeisio i fynd i’r brifysgol er mwyn astudio Egwyddorion Chwaraeon. Teimlaf fod gweithio yn yr Adran Chwaraeon, a gweld y datblygiad corfforol a’r datblygiad yng ngallu’r cyfranogwyr, wedi codi’r diddordeb sydd gennyf i astudio’n fanylach i mewn i’r ochr wyddonol o chwaraeon.