Mae Ella Grace Roberts yn dod o Fangor, ac mi fynychodd Ysgol Tryfan cyn cychwyn ar ei phrentisiaeth. Mae Ella yn brentis Gofal Plant Lefel 2, a chafodd ei enwebu am Brentis y Mis gan ei asesydd Rebecca, gan ei bod hi’n “dod i ddiwedd ei chwrs rŵan, ond wedi medru datblygu gymaint yn ystod y cymhwyster. Pan gychwynnodd Ella ar ei phrentisiaeth, roedd hi newydd orffen ysgol ac yn ddibrofiad yn y gweithle. Mae ei hyder efo’r plant a'r ffordd mae hi’n edrych ar eu hôl nhw yn ffantastig, ac mae ei hyder yn cyflawni gwaith cwrs wedi datblygu’n fawr iawn hefyd. Wrth ei arsylwi, gallaf weld faint mae hi’n mwynhau ei swydd a bod efo’r plant.’
Rydym wedi addasu'r cwrs i siwtio Ella, ac oherwydd hyn mae hi’n dweud ei bod hi’n mwynhau dysgu, ag eisiau gwneud gwaith a myfyrio yn amser ei hun. Mae hyder Ella yn defnyddio’r Gymraeg wrth recordio a chyflawni gwaith ysgrifenedig wedi cynyddu yn ystod y cwrs hefyd.”
Mae Ella wedi ateb ychydig o gwestiynau am ei hun, felly dewch i ni gael dysgu mwy amdani.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd?
Rwyf yn hoff iawn o blant ifanc fy hun, ac felly roedd y cyfle i gwblhau prentisiaeth gyda'r Urdd i ofalu am fabanod a phlant bach, yn gyfle perffaith i mi.
Beth wyt ti’n mwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Bod gyda plant ifanc a babanod, a gofalu amdanynt, yw’r peth dwi'n ei fwynhau fwyaf, ac mae'r brentisiaeth yn rhoi cyfle i mi ddysgu sut i ofalu amdanynt yn y ffordd orau.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei feddwl i ti?
Rwyf yn falch fy mod yn medru siarad ac ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, mae’n beth pwysig i mi, ac mae hefyd yn bwysig i mi fedru siarad Cymraeg gyda'r plant.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Byddaf yn hoffi mynd a'r ci am dro, ac rwyf yn aelod o gôr canu 'Encore',gan fy mod wrth fy modd yn canu a dawnsio hefyd. Rwyf hefyd yn aelod o Glwb Nofio Bangor.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Rwy'n credu fod gwneud prentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu ac aeddfedu fel person, ac i ddeall mor bwysig ydi fy mod yn berson cyfrifol, yn enwedig gyda'r plant sydd yn fy ngofal.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
I barhau gyda fy addysg NVQ, ac i barhau i weithio gyda phlant a babanod.
Disgrifia yn fras dy dyletswyddau.
-
Gofalu am y plant - bwydo.
-
Newid clytiau a glanhau'r plant.
-
Chwarae a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel.
-
Mynd a nhw am dro.
-
Glanhau'r offer.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!
Datblygu fel person.