Mae Sinead Hogan yn dod o Gaerdydd ac yn gweithio gydag Ysgol Tŷ Gwyn, sydd yn rhan o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, sydd yn angerddol am addysgu a gwella profiad bywyd pobl ifanc ag anghenion ychwanegol rhwng 3 a 19 oed. Mae Sinead yn brentis Dysgu ac Addysgu Chwaraeon Lefel 3, ac mi chafodd ei henwebu am ei hangerdd am ei gwaith prentisiaeth, yn ogystal a'i gofal a'i gwaith diflino o fewn yr ysgol. Gadewch i ni ddysgu ychydig mwy am Sinead.

Pam wnaethoch chi benderfynu cwblhau prentisiaeth Dysgu ac Addysgu Chwaraeon gyda'r Urdd?

Mae gen i angerdd tuag at ddatblygu chwaraeon i'r dysgwyr o fewn yr ysgol, felly mi neidiais ar y cyfle pan gynhigiwyd y cwrs hwn.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd, a sut mae'r brentisiaeth yn effeithio ar eich swydd?

Mae gen i'r fraint bob dydd i weithio gyda'r dysgwyr mwyaf dewr, hapus a phenderfynol. Yn syml, mae hyn yn gwneud fy swydd yr un gorau yn y byd! Rwyf yn angerddol am helpu'r dysgwyr rwy'n gweithio gyda nhw fod mor annibynnol, uchelgeisiol ac iach ac y gallwn, yn ogystal â datblygu eu llais ym mha bynnag ffurf sy'n gweithio orau iddynt. Mae dechrau'r brentisiaeth hon nid yn unig wedi rhoi sail i'm hymarfer, ond wedi fy ngalluogi i greu amgylcheddau chwaraeon mwy effeithiol i'r dysgwyr rwy'n gweithio gyda nhw. Yn ogystal â hyn, mae’n cynnig cymaint o gyfleoedd iddynt wneud dewisiadau annibynnol, a rhoi adborth i mi ar sut i wneud sesiynau chwaraeon yn fwy diddorol a phriodol iddynt.

Sut mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu eich sgiliau Cymraeg?

Rwy'n dechrau dod yn fwy hyderus yn defnyddio'r Gymraeg, ac rwyf yn ei ddefnyddio bob dydd.

Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gweithle?

Mae gen i angerdd tuag at redeg, mynd i'r gampfa leol a bocsio. Mae wedi fy ngalluogi i fyw mewn cymuned sy'n dathlu llwyddiannau ac yn cefnogi ei gilydd, pan fod angen.

Ym mha ffordd mae cwblhau prentisiaeth yn effeithio ar eich datblygiad personol?

Mae hyn wedi ategu'r wybodaeth sydd gennyf eisoes, ac wedi fy helpu i ddod yn fwy hyderus wrth gynnig darpariaeth chwaraeon o fewn fy rôl. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi ddangos i'r rhai rwy'n gweithio gyda nhw pam fod chwaraeon mor bwysig i'n dysgwyr, ac wedi rhoi cyfle i mi drosglwyddo fy ngwybodaeth newydd iddynt, er mwyn cynorthwyo efo eu datblygiad nhw.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Rwy'n gobeithio gallu cynnig sesiynau strwythuredig, a fydd yn helpu pob disgybl rwy'n gweithio gyda nhw i gyflawni eu targedau a hyrwyddo eu dysgu. Disgrifiwch eich cyfrifoldebau. Rwy'n Uwch Gynorthwyydd Addysgu sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol. Rwy'n cynorthwyo'r athro i redeg y dosbarth a threfniadau dyddiol pob disgybl, ynghyd â galluogi dysgwyr i gyflawni eu targedau. Rwyf hefyd yn rhedeg darpariaeth y tu allan i'r dosbarth, sef therapi cyffwrdd ac adfywio.

Disgrifiwch eich profiad o gwblhau'r brentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

- Grymusol.

- Gwobrwyol.

- Ysbrydoledig.

Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth am eich stori? Sut ydych chi wedi cyrraedd lle rydych chi nawr? Beth oedd/yw eich her fwyaf?

Fe wnes i ddod o hyd i fy angerdd am chwaraeon saith mlynedd yn ôl, ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Addasu gweithgareddau ar gyfer y dysgwyr rwy'n gweithio, tra mai hwn yw fy her fwyaf, mae hefyd wedi profi i fod yn fy ngwobrwyo fwyaf hefyd.