Mae Charlie Wilkes yn brentis Lefel 2 ChwaraeonHamdden a Lles Actif, ac yn gweithio gyda thîm digwyddiadau chwaraeon CaerdyddMynychodd Charlie Ysgol Gynradd Bro Eirwg, cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Bro Edern.  Charlie ydi prentis y mis cyntaf eleni, ac mae wedi cael ei enwebu am ei ddatblygiad personol cryf a’i ymrwymiad rhagorol. 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Roeddwn i’n arfer helpu gyda theithiau’r Urdd i leoliadau fel Llangrannog, Alton Towers a’r daith i Disneyland Paris, ac roeddwn i’n mwynhau’n fawr gweld a chynorthwyo gyda’r cyfleoedd roedd yr Urdd yn eu cynnig i’r plant a’r staff. Pan welais gyfle prentisiaeth ar gael o fewn yr Adran Digwyddiadau Chwaraeon, es i amdani, gan ei fod yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd wrth weithio, yn ogystal â rhoi profiadau i mi fydd yn werthfawr yn y dyfodol. 
 
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth? 

Dwi’n wir mwynhau gweithio yn y cystadlaethau chwaraeon. Er bod y gwaith yn gallu bod yn heriol ar adegau, mae’n werth chweil gweld ein holl waith caled yn dod at ei gilydd. Mae’n braf gweld y plant yn mwynhau eu hunain hefyd. Drwy dderbyn a chasglu adborth gan yr ysgolion, gallwn barhau i wella, ac mae gweld ysgolion yn dod yn ôl y flwyddyn ganlynol wastad yn newyddion da. 
 
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei feddwl i ti? 

Pan roeddwn i yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg yn aml oherwydd bod neb gartref yn gallu ei siarad. Doedd gen i ddim cyfle i ymarfer nac i wella fy sgiliau iaith. Ond ers dechrau fy mhrentisiaeth, dwi’n teimlo’n falch o gael y cyfle i siarad Cymraeg eto. Mae gen i’r siawns i wella’n gyson ac i ddysgu geiriau newydd dwi erioed wedi’u clywed o’r blaen. Mae siarad Cymraeg wedi agor drysau i mi nad oeddwn i’n eu disgwyl. 
 
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Rwy’n hoffi darllenyn enwedig ar ôl diwrnod anodd, rwy’n mwynhau mynd am dro gyda fy nghi, ac rwy’n hoffi mynd i’r gampfa hefyd. O ran chwaraeondwi’n hoffi marchogaeth yn fy amser sbâr, ac ambell waith chwarae tipyn o bêl-rwyd. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae gwneud y brentisiaeth hon wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau Cymraegond mae hefyd wedi fy helpu i weithio mewn tîm ac mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanolMae’r brentisiaeth wedi cryfhau fy sgiliau gwaith tîmhefyd fy ngallu i drafod gyda phobl o wahanol adrannau am bob math o faterionMae’r swydd hefyd wedi codi fy hyder wrth siarad mewn grŵp, ac oherwydd fy mod yn arwain clybiau ysgolrwyf bellach yn llawer mwy cyfforddus yn siarad o flaen poblrhedeg sesiynau, a bod yn arweinydd. 
 
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Lythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth? 

Roedd gen i'r sgiliau yma yn barod o’r ysgol, ac mae hynny wedi helpu lot ar y dechrau. Ers dechrau’r brentisiaeth, mae fy sgiliau rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol wedi datblygu’n sylweddol, a dwi’n teimlo’n hyderus yn fy ngwaith cwrs. Mae fy sgiliau rhifedd yn ddigon da i helpu gyda phob math o broblemau mathemategol sy’n codi ar gyfer cystadlaethau, a hefyd fy sgiliau cyfathrebu wyneb i wyneb neu drwy e-bost. Mae fy sgiliau digidol wedi gwella’n fawr hefyd, a dwi’n gyfforddus yn cwblhau’r gwaith sydd ei angen yn gywir ac ar amser.  
 
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Ar ôl y brentisiaeth, rwy’n gobeithio gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â digwyddiadau, gan helpu i baratoi a threfnu digwyddiadau — gall hwn fod mewn unrhyw sector, does dim rhaid iddo fod yn chwaraeon. Fodd bynnag, fy ngobaith yw aros gyda’r Urdd os bydd swydd addas yn codi. Gawn ni weld beth ddaw yn y dyfodol 
 
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau. 

Fy nyletswyddau yw cefnogi’r swyddogion digwyddiadau i ddarparu cystadlaethau a digwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys paratoi cofrestrau a chysylltu ag ysgolion a chanolfannau lleol i gadarnhau lleoliadau’r digwyddiadau. Rwyf hefyd yn gwirio os yw’r plant sy’n mynychu ein digwyddiadau yn aelodau o’r Urdd, er mwyn iddynt fedru cymryd rhan.  Rwy’n cydweithio â gwirfoddolwyr a dyfarnwyr digwyddiadau i sicrhau eu bod yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud, ac i roi cymorth iddynt drwy gydol y dydd. Y peth pwysicaf yw hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg o fewn y digwyddiadau, a sicrhau bod pawb sydd yn gallu siarad Cymraeg yn gwneud hynny.  Rwyf hefyd yn helpu i redeg ac arwain clybiau chwaraeon yn ystod fy oriau dysgu. 
 
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Heriol, addysgol a thrawsnewidiol. 
 
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble rwyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Pan gefais i’r alwad yn dweud bod yr Adran Digwyddiadau’n cynnig y swydd i mi, ro’n i’n falch iawn ac mor hapus, gan nad oedd gen i ddim syniad pendant am beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol. Dwi wastad yn rhoi 100% i bob tasg, ac rwy’n falch fy mod i’n dysgu’n gyflym — hyd yn oed pan mae’r gwaith yn gallu bod yn heriol iawn. 

Rwy’n falch o gael y cyfle i addasu a datblygu fy sgiliaucyrraedd fy mhotensial llawn, ac agor fy llygaid i’r hyn rwy’n gallu ei gyflawni’n bersonol. Mae wedi bod yn wych gweld faint dwi wedi gwella wrth i amser fynd heibio. Yr her fwyaf ar ddechrau’r brentisiaeth oedd fy mod yn teimlo’n swilgan nad oeddwn i’n gwybod beth i’w ddisgwylOnd mae fy nghydweithwyr i gyd wedi gwneud i mi deimlo’n gyfforddusGallaf siarad â nhw am unrhyw beth sy’n fy mhoeni, ac rwy’n gwybod y byddan nhw yno i fy helpu os bydd angen.