Mae Levi yn dod o Gastell Newydd Emlyn ac mi fynychodd Ysgol Gynradd ac Uwchradd Aberteifi. Roedd Levi yn llwyddiannus yn cwblhau ei brentisiaeth Awyr Agored Lefel 2 a nawr yn gweithio tuag at ei gymhwyster Awyr Agored Lefel 3, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Enwebwyd Levi gan ei asesydd Carys, a ddwedodd “Ers y dechrau mae Levi wedi cadw lan gyda’i rhaglen waith a chwblhau pob tasg sydd wedi cael ei osod. Mae’n mynychu pob cyfarfod yn brydlon ac yn paratoi yn wych ar gyfer gweithdai a thrafodaethau. Mae e’n cwblhau cymhwyster ychwanegol Sgiliau Hanfodol ac yn cyfuno ei waith gyda’r ddau gymhwyster yn effeithiol iawn. Mae’n datblygu ei sgiliau arwain grwpiau yn y gwersyll ac yn mwynhau ei waith yn fawr iawn. Y prif reswm hoffwn enwebu Levi yw ei fod yn berson ‘da.’ Mae pob tro yn barod i helpu eraill yn y gweithle ac rwy’n gweld ei hyder yn tyfu o un wythnos i’r llall.”
Wnaeth ei reolwr llinell Llŷr ychwanegu, “Llongyfarchiadau mawr Levi! Prentis y Mis - ti’n haeddu fe’n llwyr! Mae’n amlwg dy fod wedi bod yn rhoi dy holl egni mewn i bopeth, ac mae pawb wedi sylwi hynny. Mae’n wych gweld dy waith caled yn cael y clod mae’n ei haeddu. Dal ati!”
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Ar ôl gweithio efo’r Urdd yn Llangrannog rhan amser, mi glywais fod prentisiaeth ar gael yn Llangrannog. Wnes i ddim ail feddwl y peth, es i amdano yn syth.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Y cyfle i arwain grwpiau gwahanol pob wythnos a dysgu am hanes y plant, athrawon a hefyd yr ysgolion.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Dwi’ngallu siarad fy iaith gyntaf yn fy ngwaith a hefyd helpu plant ail iaith sydd ar y safle, gan ddysgu nhw geirfa newydd yn y Gymraeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Gwylio’r Ospreys yn chwarae rygbi, chwarae darts, mynd allan am fwyd a hefyd mynd i’r gampfa.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Ers i mi ddechrau'r brentisiaeth, mae fy hyder wedi codi i siarad â phobl gwahanol pob dydd.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Lythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Mae hyn wedi helpu i mi deimlo’n fwy hyderus yn gweithio gyda rhifau.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Mi faswn yn hoffi mynd ymlaen efo swydd llawn amser efo’r Urdd yn Llangrannog.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Cadw plant yn ddiogel pan maen nhw’n gwneud gweithgareddau.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, diddorol a gwych!