Mae Eryn yn byw yn Wrecsam, lle mynychodd Ysgol Bryn Tabor ac yna Ysgol Morgan Llwyd, cyn cwblhau ei chymhwyster Gofal Plant Lefel 3 yng Ngholeg Cambria. Mae Eryn yn gweithio yng Nghylch Meithrin Bro Alun, lle mae hi ar hyn o bryd yn brentis Gofal Plant Lefel 4. Dywedodd ei hasesydd, Rebecca, ei bod wedi’i henwebu am fod “bob amser yn llawn egni a llawenydd, ac ei bod yn cwblhau ei gwaith i safon uchel iawn. Roedd Eryn yn nerfus i gwblhau rhywfaint o’i phrentisiaeth o flaen asesydd allanol, ond mi ddangosodd hyder a’i natur egnïol a hwyliog, ac mi wnaeth hyn yn wych. Mae Eryn wedi cael dyrchafiad ac wedi cymryd mwy o gyfrifoldeb”. 

Ychwanegodd Erin Williams, Rheolwr Cylch Meithrin Bro Alun: “Mae Eryn yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm yma ym Mro Alun, ac mae ei gwaith a’i hymrwymiad yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr. Mae’r pethau y mae hi’n eu dysgu ar ei chwrs presennol, ac sy’n gallu bwydo’n ôl ac newid ein hymarfer, yn wych. Rydyn ni’n lwcus i’w chael hi!” 
 
Pam wnaethoch chi ddechrau eich prentisiaeth gyda'r Urdd?   

Mi gychwynais ar fy mhrentisiaeth gyda’r Urdd oherwydd fy mod wedi bod eisiau cwblhau fy Lefel 5 erioed. Nawr fy mod yn arweinydd ystafell, mae’n gyfle perffaith i mi gan fy mod yn arwain staff a phlant. Rwyf yn y rôl berffaith i gwblhau fy Ymarfer Proffesiynol Lefel 4 yn ogystal ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 a 5, gan fy mod eisiau datblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau ymhellach. 
 
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd, a sut mae'r brentisiaeth wedi effeithio ar eich gwaith?  

Y peth rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy swydd yw rhoi’r diwrnod gorau i’r plant bob dydd. 
 
Rwyf wrth fy modd yn dilyn llais y plentyn, ac mae’n golygu cymaint i mi fy mod yn gallu gwneud aseiniadau yn Saesneg a Chymraeg. Gallaf eu cwblhau yn Saesneg, lle rwy’n fwy hyderus wrth ysgrifennu, a gwneud fy recordiadau llais yn Gymraeg ar gyfer elfennau eraill. Rwy’n hoffi cael y dewis o ba iaith i’w defnyddio ar gyfer gwahanol aseiniadau. 
 
Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gwaith?  

Fy niddordebau y tu allan i’r gwaith yw crosio, ac rwy’n hoffi gwylio gwahanol gyfresi teledu. Rwyf hefyd yn mwynhau treulio amser gyda fy nheulu, fy nghariad a ffrindiau, yn ogystal â gwylio Cymru yn chwarae rygbi undeb, gan fy mod i’n gefnogwr rygbi mawr.  

Ym mha ffordd mae eich prentisiaeth wedi cyfrannu at eich datblygiad personol?  

Mae’r brentisiaeth wedi cyfrannu at fy natblygiad personol mewn sawl ffordd wahanol. Mae wedi fy ngwthio i wella fy sgiliau ysgrifennu a’m hyder wrth gael fy recordio. Mae hefyd wedi fy helpu i gyrraedd fy nhargedau a’m dyddiadau cau, gan sicrhau bod fy holl waith yn cael ei gwblhau ar amser. 
 
Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl eich prentisiaeth?  

Ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth ac ar ôl cwblhau fy Ymarfer Proffesiynol Lefel 4, hoffwn symud ymlaen i wneud fy Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 a 5 gyda Rebecca. Yna hoffwn gwblhau fy Ngwaith Chwarae Lefel 5, gan fod gen i fy Lefel 3 eisoes, ond hoffwn barhau â’m datblygiad. 

Disgrifiwch eich dyletswyddau.  

Rwy’n arweinydd ystafell yng Nghylch Meithrin Bro Alun, lle rwy’n gweithio gydag Addysg Gynnar yn y bore ac yn arwain y Cylch yn y prynhawn. Fy swydd i yw rhoi’r diwrnod gorau i’r plant bob dydd, ac rwy’n ymfalchïo yn hynny! 
 
Rwy’n gweithio mewn tîm anhygoel, lle rydyn ni i gyd yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod pob plentyn yn cael llais ac yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Rydyn ni bob amser yn sicrhau bod yr holl weithgareddau a’r gwibdeithiau yn seiliedig ar ddiddordebau’r plant, tra’n datblygu eu sgiliau mewn ffordd hwyliog a chroesawgar. 
 
Rwy’n sicrhau ein bod yn darparu drwy’r Gymraeg bob amser, ac yn rhoi’r cyfleoedd chwarae gorau posibl i’r plant. 
 
Disgrifiwch eich profiad mewn 3 gair.  

Cadarnhaol, cefnogol a defnyddiol.   
 
Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth at eich stori ?  

Rwy’n gweithio yng Nghylch Meithrin Bro Alun, lle yn 2024 enillon ni’r wobr am y Cylch gorau yn y Gogledd Ddwyrain ac yng Nghymru gyfan, ac enillodd Miss Erin yr Ymarferydd Gorau. Yn 2025, enillon ni hefyd y wobr am y Ti a Fi gorau yng Nghymru gyfan. 
 
Rwy’n gweithio’n galed ac rwy’n credu nad ydych byth yn rhoi’r gorau i ddysgu a datblygu. Dyna pam rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 a 5, er mwyn gallu gwella fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth, a datblygu fy sgiliau ymhellach i barhau i roi’r diwrnod gorau i’r plant yn fy lleoliad bob dydd!