Mae Rubelyn yn wreiddiol o'r Philipinau, ac yn byw yn Abertawe. Mae hi'n gweithio yn Ysgol Gynradd Plasmarl yn y ddinas, ac yn gweithio tuag at gymhwyster Gofal Plant Lefel 2. Dyma beth oedd ganddi i'w ddweud am weithio tuag at ei phrentisiaeth gyda'r Urdd.
Pam wnaethoch chi ddechrau eich prentisiaeth gyda'r Urdd?
Roeddwn wastad eisiau astudio gofal plant a gwella fy sgiliau Cymraeg, ond doeddwn i heb gael y cyfle. Gwnaeth fy ffrind, sydd hefyd yn brentis efo'r Urdd, fy annog i ymuno â'r rhaglen brentisiaethau. Pan glywais amdano, roeddwn i‘n gyffrous i astudio gofal plant yn ddwyieithog o'r diwedd, gan mai dyma'r cyfle yr oeddwn wedi bod yn edrych amdano. Mae staff yr Urdd wedi bod yn gefnogol iawn o'r cychwyn cyntaf, a thrwy gydol fy mhrentisiaeth.
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd a sut mae'r brentisiaeth wedi effeithio ar eich gwaith?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda fy nghydweithwyr a theuluoedd y plant, i gefnogi eu datblygiad a'u taith ddysgu. Rwyf hefyd yn mwynhau gwneud y dysgu yn hwyl ac yn greadigol i'r plant. Fel prentis efo'r Urdd, nid yn unig ydi o wedi fy helpu i feithrin fy hyder, ond rwyf hefyd wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o fy nyletswyddau a'm cyfrifoldebau yn y gwaith.
Beth mae cwblhau eich prentisiaeth yn Gymraeg/dwyieithog yn ei olygu i chi?
Mae medru astudio'n ddwyieithog wedi rhoi’r cyfle i mi wella fy Nghymraeg a'i defnyddio yn y gwaith bob dydd.
Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gwaith?
Rwy'n angerddol am actio a cosplay, ac rwy'n gweithio fel artist cefnogol mewn ffilm a theledu, a hefyd yn mynychu confensiynau. Mae geni ddiddordeb brwd hefyd mewn dysgu gwahanol ieithoedd. Yn ystod fy amser rhydd, rwy'n mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol, gwylio anime a darllen llyfrau.
Ym mha ffordd mae eich prentisiaeth wedi cyfrannu at eich datblygiad personol?
Rwyf wedi magu hyder drwy ddefnyddio a dysgu'r Gymraeg yn y gwaith. Datblygais hefyd sgiliau newydd ynglŷn â sut mae cefnogi dysgu a datblygu’r y plant yn effeithiol.
Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl eich prentisiaeth?
Rwy'n anelu i barhau i dyfu'n broffesiynol, drwy gefnogi dysgu a datblygiad y plant.
Disgrifiwch eich dyletswyddau.
Rwy'n darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro, ac yn gweithio fel tîm i sicrhau fod rhedeg y dosbarth yn llyfn, a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar i'r plant. Rwyf hefyd yn sicrhau diogelwch a lles y plant, drwy feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol.
Disgrifiwch eich profiad mewn 3 gair.
Cefnogol, ysbrydoledig a gwobrwyol.
Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth at eich stori?
Rwy'n ddiolchgar iawn i'm haseswr Sonia a'm cydweithwyr yn y gwaith, am fy nghefnogi’r holl ffordd. Maen nhw'n hynod o galonogol a chefnogol, ac ni allwn fod wedi gwneud hyn heb eu cefnogaeth. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Urdd am roi'r cyfle i mi ddysgu a thyfu'n broffesiynol.