Mae Faye Brightman yn dod o Aberteifi yng Ngorllewin Cymru, ac mae hi newydd gwblhau ei chymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel 3. Mae Faye yn cynnig mannau diogel i bobl ifanc o fewn y gymuned LHDTC+ yng Ngheredigion a Gogledd Sir Benfro.
Pa ysgol wnaethoch chi fynychu?
Cefais fy addysgu gartref tan dy fod yn 15 oed, pan ddechreuais yn y Coleg. Fe wnes i gwblhau cwrs Mynediad Galwedigaethol (a elwid gynt yn Sgiliau Byw'n Annibynnol) yng Ngholeg Ceredigion yn Aberystwyth, a gymerodd fi o fod yn Lefel Mynediad 1 Saesneg a Mathemateg, i Lefel 1.
Pam wnaethoch chi benderfynu cwblhau prentisiaeth Gwaith Ieuenctid gyda'r Urdd?
Cofrestrais ar y cynllun yn wreiddiol fel rhan o’r swydd yr oeddwn yn ei wneud at y pryd, ac ar ôl gadael y swydd honno, mi benderfynais barhau i ddatblygu fy sgiliau gweithio gyda phobl ifanc, fel y gallwn ddod yn weithiwr ieuenctid mwy effeithiol.
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd, a sut mae'r brentisiaeth yn effeithio ar eich swydd?
Rwy'n mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc, a gweld y gwahaniaeth hwnnw, yn ogystal â gwneud eraill yn hapus. Mae'r brentisiaeth hon wedi fy ngwneud yn well yn fy swydd, ac i ddod yn fwy cymwys wrth gefnogi'r bobl ifanc rwy'n gweithio gyda nhw.
Sut mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu eich sgiliau Cymraeg?
Mae fy nhiwtor wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg drwy ddechrau pob un o’n cyfarfodydd yn y Gymraeg, a'm hannog i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg syml yn ystod fy ngwaith gyda phobl ifanc. Mae hyn hefyd wedi helpu i wella fy hyder. Diolch yn fawr Nia!
Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gweithle?
Rwy'n mwynhau canu, dawnsio ac actio! Mae gen i gefndir mewn drama, ac rwy'n gweld ei fod yn ffordd wych o ymlacio a chael gwared â straen, a hefyd i wella fy hwyliau!
Ym mha ffordd mae cwblhau prentisiaeth yn effeithio ar eich datblygiad personol?
Mae wedi helpu i mi edrych ar bethau mewn ffyrdd gwahanol, ac i herio fy hun pan fyddaf yn dal fy hun yn ôl.
Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau eich prentisiaeth?
Rwy'n gobeithio parhau i gefnogi pobl ifanc, ac i barhau efo dysgu a datblygu fy ymarfer gwaith ieuenctid.
Disgrifiwch eich cyfrifoldebau.
Rwy'n cydlynu Glow Byd Bach, man diogel LHDTC+, sy'n ysbrydoli ac yn helpu pobl sydd wedi'u lleoli yng Ngorllewin Cymru.
Disgrifiwch eich profiad o gwblhau'r brentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Cyffrous, buddiol, gwych!