Katy Campbell yw ein prentis y mis ar gyfer mis Tachwedd.  Mae Katy yn brentis Gofal Plant Lefel 3, ac yn gweithio gyda meithrinfa Rocking Horse yn Sir y Fflint. Cafodd Katy ei henwebu am ddefnyddio gwahanol ddulliau dysgu a myfyrio ar ei hymarfer ei hun.  Nid yw Katy yn dod o Gymru yn wreiddiol, ac mae hi wedi bod yn mynychu cwrs iaith Gymraeg gyda chefnogaeth yr Urdd er mwyn helpu efo datblygiad ei sgiliau, ac mae hi'n defnyddio Cymraeg gyda'r plant.  Mae Katy wedi ateb rhai cwestiynau ynglŷn â’i thaith brentisiaeth hyd yn hyn:- 

O ble wyt ti’n dod? 

Rwy'n dod o Henffordd yn wreiddiol, ond cefais fy magu fel plentyn y fyddin, ac felly rwy'n dod o bob man mewn gwirionedd! Roeddwn i'n byw yn Swydd Efrog y rhan fwyaf o fy mywyd, cyn symud i Ogledd Cymru bedair blynedd yn ôl.  
 
Ble aethoch chi i'r ysgol?  

Ym mhobman! Fel plentyn y fyddin, es i bedair ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd. Dechreuais yn Henffordd, yna i ysgol yn Brunei, ac wedyn i ddwy ysgol yn Swydd Efrog. Dechreuais ysgol uwchradd yng Ngogledd Iwerddon, cyn gorffen yn ôl yn Nwyrain Swydd Efrog.  

Pam wnaethoch chi ddechrau eich prentisiaeth gyda'r Urdd? 

Rwyf wedi gweithio ym maes gofal plant drwy gydol rhan fwyaf o fy ngyrfa, ar wahân i gyfnod Covid, pan oeddwn i'n gweithio yn y maes gofal oedolion, ac wedi defnyddio fy ngradd mewn astudiaethau addysg i helpu efo fy ngwaith. Pan ddechreuais weithio yng Nghymru, cefais gynnig i wneud hyfforddiant Lefel 3 Gofal Plant, a neidiais ar y cyfle! 
 
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd a sut mae'r brentisiaeth wedi effeithio ar eich gwaith? 

Rwyf wastad wedi caru fy ngwaith gyda phlant, ond mae'r brentisiaeth hon wedi helpu fy nealltwriaeth o addysg gynnar yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi darganfod diddordebau newydd, er enghraifft, ar ôl ymchwil rwy'n awr wedi fy denu’n gryf tuag at brofiad plant dwyieithog a sut i'w cefnogi.  

Beth mae cwblhau eich prentisiaeth yn y Gymraeg/dwyieithog yn ei olygu i chi? 

Dim ond pedair blynedd yn ôl symudais i Gymru, ond mae gen i gymaint o gariad tuag at yr iaith Gymraeg. Rwyf yn ystyried yn gryf anfon fy mab i ysgol gyfrwng Cymraeg, oherwydd y budd enfawr o ddysgu ail iaith. Rwyf wedi cwblhau cyrsiau a gweithdai yn y Gymraeg, ac rwyf wrth fy modd yn dysgu geirfa newydd a'i defnyddio yn y gwaith. Roeddwn i wastad yn mwynhau dysgu Ffrangeg yn yr ysgol, ond mae wedi bod yn hyfryd dysgu iaith y gallaf ei ddefnyddio mewn ffyrdd ymarferol iawn.  

Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gwaith? 

Rwy'n byw gyda fy fiancé a'n mab sy’n ddwy flwydd oed, gyda fy llysfab yn treulio amser gyda ni hefyd. Rydyn ni wrth ein bodd yn treulio amser gyda'n gilydd, gwrando a gwneud cerddoriaeth a mynd i'r . Rwy'n gwneud llawer efo’n heglwys leol, ac yn helpu gyda'r grwpiau plant a'r digwyddiadau yno.  
 
Ym mha ffordd mae eich prentisiaeth wedi cyfrannu at eich datblygiad personol? 

Mae wedi adeiladu fy hyder. Mae dychwelyd i'r gwaith ar ôl cael babi yn anodd, yn enwedig pan fyddwch chi'n ail ddyfalu eich hun wrth i chi ddatblygu rôl newydd yn eich bywyd personol, felly mae cael cefnogaeth ac anogaeth fy nhiwtor wedi bod yn anhygoel.  
 
Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau eich prentisiaeth? 

Parhau i weithio ym maes gofal plant a pharhau i ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth. Rwy'n gobeithio parhau i ddysgu mwy o Gymraeg, a meithrin fy hyder yn y Gymraeg ymhellach.  
 
Disgrifiwch eich dyletswyddau. 

Rwy'n gweithio yn ein hystafell Addysg Gynnar gyda phlant sy'n dair oed. Rwy'n cefnogi eu dysgu a'u datblygiad, ac yn gweithio'n agos gyda thîm i wneud hynny. Rydym yn gweithio'n agos gydag athro Addysg Gynnar, sy'n dod i mewn yn aml i fonitro ein gwaith a'n cefnogi gyda'r hyn a wnawn.  
 
Disgrifiwch eich profiad mewn 3 gair. 

Gwobrwyol, calonogol a hwyl. 
 
Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth at eich stori? 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Rebecca am yr holl anogaeth mae hi wedi'i roi i mi.