Teitl y Swydd: Cyfrifydd Prosiect
Math o gytundeb: Tymor penodol, tan 31 Rhagfyr 2026
Oriau gwaith: Rhan amser (21 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 6: £35,912 - £41,906 y flwyddyn (pro rata)
Lleoliad: Un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad Cau: 8fed o Ragfyr am hanner nos.
Dyddiad Cyfweld: w/c 15fed o Ragfyr
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Arwain ar weithredu system gyfrifeg ERP newydd i’r elusen. Mae’r rôl hon yn allweddol i sicrhau tryloywder ariannol, effeithlonrwydd gweithredol ar draws y mudiad, ac i gefnogi ein gallu i ddarparu gwasanaethau a chyfleodd i blant a phobol Ifanc fwynhau profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg i’w galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwenno Williams, Cyfarwyddwr Cyllid ar gwennowilliams@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org
