Swyddog Cymunedol Ceredigion

Teitl y Swydd:  Swyddog Cymunedol Ceredigion

Math o gytundeb:  Swydd barhaol 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:  Gweithredol 4 : £28,832 - £30,813 y flwyddyn 

Lleoliad:  Gwersyll Llangrannog

Dyddiad Cau:  25ain o Dachwedd am 12:00yp

Dyddiad Cyfweld:  i'w gadarnhau

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma

 

Y Swydd

Beth am ymuno a thim egniol Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau amrywiol yn eu hardal leol a thu hunt trwy gyfrwng y Gymraeg a thu allan i’r ystafell ddosbarth.  Mae’r adran yn cynnig cymorth a chefnogaeth i wirfoddolwyr ac yn cefnogi cymunedau ledled Cymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Morris Jones (Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned) ar 07494775897 neu sianmorrisjones@urdd.org , neu Eryl Williams (Rheolwr Cymunedol) ar eryl@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org