Beth yw #ActifAdref?
Mae #ActifAdref yn gyfres o weithgareddau chwaraeon digidol byw i aelodau'r Urdd, gyda rhywbeth at ddant bawb o bob oedran cynradd. Dewch i ni fod yn actif!
Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?
Oes mae angen i chi fod yn aelod o'r Urdd i gymryd rhan yn #ActifAdref. Ond peidiwch â phoeni gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma
Pwy fydd arweinyddion y sesiynau?
Bydd staff cyfeillgar Adran Chwaraeon yr Urdd yn croesawi plant i'r sesiynau ar Zoom am weithgareddau hwyl gyda ffrindiau hen a newydd. Darperir awyrgylch hwyl a chyfeillgar, wedi'i arwain gan staff profiadol yn y maes chwaraeon.
*Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch nawr er mwyn osgoi siom
Calendr 4 wythnos
22 Chwefror - 19 Mawrth 2021
Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!
Pob Dydd Llun
Pob Dydd Mawrth
Pob Dydd Mercher
Pob Dydd Iau