Croeso i Wersyll Haf Antur Natur!
Ym mhrydferthwch Gogledd Sir Benfro daw antur a byd natur at ei gilydd mewn profiad haf unigryw a ddyluniwyd ar gyfer plant 11-14 oed! Wedi’i swatio yn un o dirweddau mwyaf prydferth ac amrywiol y DU, mae’r gwersyll hwn yn gwahodd pobl ifanc i ymgolli yn y byd naturiol wrth ddysgu sgiliau awyr agored gwerthfawr.
Drwy gydol yr wythnos, bydd gwersyllwyr yn ymgymryd ar anturiaethau gwefreiddiol, gan gynnwys arfordiro lle byddant yn archwilio’r amgylchedd morol gan hefyd mwynhau’r cyffro o neidio mewn i’r dyfroedd. Byddant hefyd yn rhoi cynnig ar fforio gan ddarganfod planhigion bwytadwy gwyllt, a phrofi eu greddfau goroesi gyda sgiliau gwylltgrefft a goroesi hanfodol.
Mae’r antur yn parhau gyda theithiau natur drwy dirweddau ysblennydd, lle mae pob tro yn cynnig cynefinoedd newydd a thrysorau cudd hynafol. Bydd sesiwn Natur Biofflworoleuol yn datgelu rhyfeddodau disglair y byd naturiol ar ôl iddi dywyllu a'n sesiwn serydda yn syfrdanu gyda storiâu’r sêr a phlanedau.
I'r rhai sy'n caru anifeiliaid, mae Taith Cwch Dolffiniaid a Morloi yn gyfle i weld y creaduriaid anhygoel hyn yn eu cynefin naturiol
Mae pob gweithgaredd yng Ngwersyll Antur Natur wedi'i gynllunio i herio gwersyllwyr, adeiladu eu hyder, a dyfnhau eu cysylltiad â'r amgylchedd. Gyda hyfforddwyr arbenigol, swyddogion gwersyll cefnogol, a digonedd o hwyl awyr agored, mae'r gwersyll hwn yn ffordd berffaith i anturwyr ifanc archwilio'r gwyllt, gwneud ffrindiau newydd, a chreu atgofion a fydd yn para am oes.
Dyddiadau
10 - 13 Awst 2026 (4 noson)
Oedran
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 7-9 / plant 11- 14 oed.
Pris
£290 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Cynllun talu rhandaliadau ar gael.
Gellir trefnu cludiant bws am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.
Llety
Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at chwech neu wyth.
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Amserlen Enghreifftiol Gwersyll Antur Natur a Môr
Dydd Llun
13:00 Cyrraedd, Croeso a Chinio
14:00 Sesiwn Ymgyfarwyddo ac Adeiladu Tîm
16:00 Egwyl a The
16:30 Gwylltgrefft
18:00 Swper
19:00 Taith Machlud haul i’r gromlech
21:00 Sesiwn Natur Biofflworoleuol
22:00 Gwely
Dydd Mawrth
8:00 Brecwast
9:00 Sesiwn Natur Cynefin Coedwig: Coedwig Hynafol Ty Canol
12:30 Cinio
13:30 Sesiwn Natur yr Afon: Canolfan Bywd Gwyllt Cilgerran
15:00 Taith Cwch Dolffiniaid a Morloi
16:30 Gemau Traeth
18:00 Dychwelyd i'r Gwersyll
19:00 Swper
20:00 Chwedlau o amgylch y tan
21:00 Gwely
Dydd Mercher
8:00 Brecwast
9:00 Ymadael y Gwersyll
10:00 Sesiwn Natur yr Arfordir
12:00 Cinio Pecyn
13:00 Sesiwn Arfordiro yn Abereiddy
17:00 Gadael am y Gwersyll
18:30 Swper
19:30 Noson Ffilm a gemau bwrdd
23:00 (opsiynol) Sesiwn Serydda a gwylio Ser Wib Perseids
Dydd Iau
8:30 Brecwast
9:30 Pacio
10:00 Sesiwn Actifiaeth Creadigol
11:00 Ffarwelio ac Ymadael