Beth am roi croeso Mônwysaidd i’r Eisteddfod?

Byddai’n wych gweld yr ynys wedi ei gorchuddio mewn coch, gwyn a gwyrdd! Mae bunting ar gael i’w brynu am £5 o Swyddfa’r Urdd yn Llangefni a bydd yr arian yn mynd at y targed codi arian lleol.

Os ydych chi'n chwilio am rhywbeth i'w wneud adref gyda’r plant, dyma daflenni lliwio 'Croeso Eisteddfod yr Urdd 2026’.

Ac os oes gennych chi fêls mawr, mae sticeri ar gael am ddim.

Cofiwch anfon eich lluniau at eisteddfod2026@urdd.org erbyn 8 Mai i gystadlu.
(Gweler y canllawiau gan y Cyngor ar y dde er mwyn sicrhau diogelwch wrth osod yr addurniadau).